Parti Traeth Rhisga 2024
Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
Parc Tredegar, Rhisga NP11 6BX
01443 866390 cydraddoldeb@caerffili.gov.uk
Ymunwch a'r digwyddiad swyddogol Facebook!
Mae Parti Traeth Rhisga yn ddigwyddiad sy’n cael ei gynnal o 10am tan 4pm ar ddydd Sadwrn 8 a dydd Sul 9 Mehefin ym Mharc Tredegar, sydd wedi’i leoli oddi ar Tredegar Street yng nghanol tref Rhisga! Bydd y digwyddiad deuddydd hwn yn gartref i draeth anferth yn llawn cadeiriau cynfas a theganau traeth i ddiddanu pawb. Bydd sioeau Pwnsh a Siwan yn cael eu cynnal yn rheolaidd drwy gydol y dydd a bydd detholiad o reidiau ffair i bobl ifanc, ynghyd ag amrywiaeth o atyniadau i ddiddanu pawb! Bydd nifer fach o stondinau yn gwerthu losin, brownis, a phice ar y maen, yn ogystal â diodydd poeth ac oer, tatws ar ffurf troell, ‘Dinky Donuts’ a’r fan hufen iâ holl bwysig! Beth am fentro i’r dref a #DewisLleol… dewch â sglodion neu ddanteithion picnic yn ôl i’w mwynhau ar y traeth a chefnogi'r manwerthwyr lleol… gwyliwch yr asynnod ond peidio â cheisio ymuno â’r amser bwydo! Mae digon o fannau agored yn y parc ar gyfer picnic hefyd, felly, dewch â’ch blancedi a’ch danteithion gyda chi ac aros am y diwrnod! (Sylwer: ni chaniateir alcohol yn y digwyddiad.) I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390. ❗️ Sylwer: mae croeso mawr i gŵn ddod i Barti Traeth Rhisga, ac eithrio ardal y traeth am resymau iechyd a diogelwch. Er bod croeso i gŵn yn ein digwyddiadau, efallai y bydd y nifer fawr o bobl yn codi ofn ar rai cŵn, a all fod yn niweidiol i'w lles ac achosi iddyn nhw frathu. Mae perchnogion sy'n dod â chŵn i ddigwyddiad yn gwneud hynny ar eu menter ac atebolrwydd eu hunain.Rhaglen Adloniant
Dyma rai o'r gweithgareddau ac adloniant y gallwch chi ddisgwyl eu gweld ym Mharti Traeth Rhisga:
- Traeth anferth
- Dathlu diwrnod Ghostbusters (dydd Sadwrn yn unig)
- Adar ysglyfaethus (dydd Sul yn unig) ac anifeiliad egsotig
- Reidiau ffair hwyl
- Reidiau ar gefn asynnod a fferm anwesu
- Sioe Pwnsh a Jwdi Paul Wheeler
- Paentio wynebau (Dydd Sadwrn yn unig)
- Stondinau bwyd a diod
- Gweithdai crefft i blant AM DDIM
- Hwyl môr-ladron
Cliciwch yma i weld y rhaglen adloniant lawn!
Gwybodaeth Teithio a Parcio
Parcio Ceir
Mae parcio i'r cyhoedd ar gael am ddim yn y meysydd parcio cyfagos canlynol:- Maes parcio Tredegar Terrace, NP11 6BY
- Parcio a Theithio Gorsaf Reilffordd Rhisga a Phont-y-meister, NP11 6BD
- Maes parcio Tesco Extra (amser cyfyngedig ac ar gael i gwsmeriaid yn unig), NP11 6NP
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Gwasanaethau Trên Gallwch chi gyrraedd safle'r digwyddiad yn Nhiroedd Tredegar, NP11 6BX, mewn 7 munud ar droed o orsaf reilffordd Rhisga a Phont-y-meistr.- Mae gorsaf reilffordd Rhisga a Phont-y-meister ar reilffordd Glyn Ebwy, ac mae trenau'n rhedeg bob awr i Chasnewydd ac yn ôl a bob 30 munud i Lynebwy a Chaerdydd Canolog ac yn ôl. Efallai y bydd tarfu ar wasanaethau rheilffordd, gwiriwch ymlaen llaw am unrhyw newidiadau i wasanaethau.
- X15 (Stagecoach): Bryn-mawr – Casnewydd trwy Drecelyn ac Abertyleri
- 56 (Stagecoach): Tredegar – Coed Duon – Casnewydd
- 151 (Stagecoach): Coed Duon – Casnewydd trwy Drecelyn a Rhisga
- R1 (Newport Bus): Casnewydd – Ty Sign – Rhisga
- R2 (Newport Bus): Tŷ-du (Morrisons) – Fernlea – Rhisga
Rheseli Beiciau
Mae rheseli beiciau ar gael y tu allan i Lyfrgell Rhisga, NP11 6BW.Rhestr Stondinau
| Enw'r busnes | Cynhyrchion/gwasanaethau i’w gwerthu/arddangos |
| Ally's Confectionary | Losin traddodiadol, losin gwreiddiol, candi-fflos a diodydd meddal |
| Baker Bears | Teisennau cwpan, brownis, blondis, sgwariau caramel a siocled, 'rocky road', pasteiod cwcis, jareidiau o deisen, lolipops teisen. |
| CCBC Mobile Hub | Gwybodaeth a chyngor ar wasanaethau'r Cyngor. Will vary from event to event but includes cost of living, employment, training and education (Multiply), sioeau yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, Supported Lodgings, 16+ Team, Recycling, Citizens advice |
| Dinky Donuts | Byrbrydau Poeth a Diodydd – Dinky Donuts ffres, diodydd poeth ac oer, conau eira |
| Eleri's Welsh Cakes | Homemade Welsh cakes in a variety of traditional and contemporary flavours. |
| Falconry UK | Birds of prey static display |
| Lee's Ices | Consesiwn - hufen ia, ice lollies, slush, drinks and confectionary |
| Rae's Grace Cakes | Cacennau cwpan, cacennau mawr fesul tafell, cacennau hambwrdd, cwcis, brownis |
| The Slime Factory | Pecynnau gwneud sleim ac ategolion, gweithdai gwneud sleim |
| Tracey's Funky Faces | Paentio wynebau |
Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr - Digwyddiadau Canol Trefi Cyngor Caerffili, Haf 2024
Gweler yr hysbysiadau isod am wybodaeth bwysig ynghylch cau ffyrdd, systemau traffig a mynediad i breswylwyr/manwerthwyr yn ystod ein Digwyddiadau'r Haf 2024 ni. Cliciwch neu daro ar y delweddau i gael fersiwn sgrin lawn o’r Hysbysiad i Breswylwyr a Manwerthwyr.
Mae Coleg Gwent yn falch i noddi Parti Traeth Rhisga!
Ymunwch â nhw am brofiad bythgofiadwy yn eu sioe ‘Dod o hyd i'ch dyfodol’ yn Friars Walk, Casnewydd, rhwng 10 a 13 Mehefin. Mae hwn yn gyfle gwych i ddarpar fyfyrwyr archwilio eu camau nesaf, cwrdd â chyflogwyr, a chael yr arweiniad sydd ei angen arnoch chi i lunio'ch dyfodol. Peidiwch â cholli allan ar y cyfle hwn i ddod o hyd i'ch dyfodol gyda Choleg Gwent!
Mae Rhisga yn Dref Smart!
Archwilio'r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi ym Mharti Traeth Rhisga, trwy lawrlwytho'r ap VZTA Smart Towns.
Lawrlwythwch am ddim, yma!
Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.
#CroesoCaerffili #DewisLleol #UKSPF