Pride Caerffili 2026

4 Gorffennaf 2026
  Canol tref Caerffili CF83 1JL
  01443 864404 / 01443 864353   cydraddoldeb@caerffili.gov.uk

Sylwer: gall yr holl wybodaeth newid.

Dilynwch â Pride Caerffili ar Instagram!

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol i gael diweddariadau rheolaidd!

I wneud cais am ofod masnach yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau eleni, llenwch y ffurflen gais ar-lein.


Ymunwch â ni yn Pride Caerffili a fydd yn digwydd rhwng 12pm-6pm ar ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf 2026.

Gall ymwelwyr ddisgwyl digwyddiad i’r teulu cyfan, gan gydnabod a dathlu’r cyfraniadau gan bobl LHDTC+ yn ein cymdeithas. Ar y diwrnod, bydd adloniant byw a Gorymdaith Balchder eiconig i ddathlu.

Bydd yr orymdaith yn cychwyn o Ysgol Martin Sant, Caerffili am 12pm, gan anelu lawr drwy’r dref ac yn mynd o amgylch Maes Parcio’r Twyn lle bydd yn gorffen.

Bydd yn ddiwrnod gwych llawn cerddoriaeth fyw, adloniant a dathlu wrth ddod at ein gilydd mewn cefnogaeth dros y gymuned LHDTC+ ym mwrdeistref sirol Caerffili.

Mae canol y dref yn cynnig dewis hyfryd o siopau annibynnol ac mae amrywiaeth o leoliadau bwyta allan ledled y dref, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ym Maes Parcio’r Twyn, Canol Tref Caerffili, CF83 1JL, lle bydd y ffordd ar gau ar hyd Twyn Road.

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i cydraddoldeb@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864404 / 864353.

Mae’r digwyddiad hwn yn cynorthwyo #DewisLleol i roi hwb ac ennyn cefnogaeth i fusnesau lleol.


Parcio a Thrafnidiaeth

Rheseli Beiciau

Mae nifer o reseli beiciau yng nghanol tref Caerffili. Mae rheseli beiciau ar gael ledled Cardiff Road, y Twyn a thu allan i Morrisons.

Lleoliadau rheseli beiciau yng nghanol tref Caerffili:

  • Y tu allan i orsaf drenau Caerffili: 5 rhesel dan do
  • Gyferbyn â The Lazy Panda, Cardiff Road: 6 rhesel
  • Ger Banc NatWest, Cardiff Road: 3 rhesel
  • Gyferbyn â’r Banc (hen Fanc Barclays), Cardiff Road: 5 rhesel
  • Y tu allan i fynedfa Morrisons: 3 rhesel
  • Man cyhoeddus, Windsor Street: 5 rhesel
  • Croesfan (ynys groesi i gerddwyr) rhwng y senotaff a Chanolfan Siopa Cwrt y Castell: 12 rhesel
  • Y tu ôl i Ganolfan Gymunedol y Twyn: 4 rhesel
  • Y tu allan i Lyfrgell Caerffili: 3 rhesel

Trafnidiaeth Cyhoeddus

Mae Cyfnewidfa Drafnidiaeth Caerffili o fewn pellter cerdded i safle’r digwyddiad.

Mae Gorsaf Drenau Caerffili yn darparu gwasanaethau uniongyrchol i’r lleoliadau canlynol ac yn ôl:

  • Bargod (bob oddeutu 10-20 munud)
  • Ynys y Barri (bob oddeutu 10-30 munud)
  • Caerdydd (bob oddeutu 10 munud)
  • Rhymni (bob oddeutu 30-40 munud)
  • Ystrad Mynach (bob oddeutu 10-20 munud)

Mae gorsaf fysiau Caerffili yn darparu cyswllt uniongyrchol â Chaerdydd a llwybrau eraill ledled y Fwrdeistref Sirol.

Ewch i wefannau Trafnidiaeth Cymru* a Traveline Cymru* i gael rhagor o wybodaeth am amserlenni trenau a bysiau.

❗️ Gwiriwch am newidiadau posibl i amserlenni/llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer diwrnod y digwyddiad cyn teithio.

Parcio Ceir

Mae meysydd parcio cyhoeddus ar gael yn y lleoliadau canlynol:

  • Maes parcio Station Terrace CF83 1JU (talu ac arddangos)
  • Cyfleuster Parcio a Theithio Caerffili CF83 1JU (am ddim)
  • Maes parcio Crescent Road CF83 1AB (talu ac arddangos)
  • Morrisons/Canolfan Siopa Cwrt y Castell CF83 1XP (am ddim, hyd at 3 awr)

Gallwch chi ddefnyddio Parkopedia* i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feysydd parcio yn yr ardal, gan gynnwys prisiau.

❗️ Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.

*Nid yw Croeso Caerffili yn gysylltiedig â’r sefydliad hwn.


Rhaglen Adloniant

Amser Gweithgaredd
12pm Gorymdaith Pride Caerffili yn cychwyn o Ysgol Martin Sant
1pm – 6pm Llwyfan Adloniant noddir gan Uno’r Undeb
1pm – 5pm Bandstand Ieuenctid Pride Caerffili noddir gan ACT Training

Rhestr Stondinau

Gwybodaeth a Nwyddau Bwyd Diod
Aneurin Bevan University Health Board + Fast Track Cymru Abbotts Events Ltd – Welsh Italian Pizza Co Gin Lizzy
Caerphilly Players Aga Farm Heritage Breeds Pop N Pour
Charity link Bests Jamaican Cuisine The Rainbow Bar
CJCH Solicitors Caira’s Cakes and Bakes Williams Brothers Cider
Cyfannol Women’s Aid Doughnutters  
Family First Professionals iFeed Events Ltd  
Gwent Drug and Alcohol Service Sweet Delights  
It Gets Better UK    
Miss Magnets    
More Than Flags and Rainbows    
Mythical 3D Printings    
Rainbow Pooch Pride    
South East Wales Adoption Service    
The Gathering – Cardiff    
Unite Wales    
The Office of the Police and Crime Commissioner for Gwent    

Gwybodaeth bellach

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad