The ELO Encounter yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Stryd Fawr, Coed Duon NP12 1BB
  01495227206   BMI@caerphilly.gov.uk

Gwybodaeth bellach

Cyswllt

Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Lleoliad

https://youtu.be/5ttpIfrLSbw Am docynnau, ewch yma! Symuda o’r ffordd Beethoven, achos mae’r deyrnged orau i Electric Light Orchestra Jeff Lynne wedi cyrraedd! Mewn sioe fyw sy’n cynnwys llinynnau esgynnol, harmonïau lleisiol trawiadol ac sy’n chwarae’r holl ganeuon poblogaidd o lyfrgell ELO sy’n llawn llwyddiannau ysgubol, gan gynnwys Evil Woman, Telephone Line a Don’t Bring Me Down. Mae’r ELO Encounter yn addo noson llawn roc a rôl a ‘Blue Skies’ a fyddai’n gwneud i hyd yn oed Mozart a Bach ddawnsio yn eu seddi! Felly, ‘Hold On Tight’, oherwydd mae ‘Rock and Roll Is King’ mewn sioe sy’n sicr o’ch cael chi’n partio ‘All Over The World’! Nid yn unig yn ail-greu cerddoriaeth fendigedig yr ELO, mae’n sioe fyw ysblennydd o’r dechrau i’r diwedd. Mae goleuadau syfrdanol ac effeithiau arbennig yn creu awyrgylch a fydd yn gwneud i chi ymgolli’n llwyr yn yr holl brofiad. Wrth i’r ELO Encounter chwarae clasuron ELO un ar ôl y llall, mae’n sicr o wneud i’r gwallt ar gefn eich gwddf ddawnsio i guriad y gerddoriaeth!!