Mae'r Tour of Britain yn dychwelyd i’r Fwrdeistref Sirol ddydd Sul 10 Medi!
Bydd y digwyddiad chwaraeon o safon fyd-eang yn dod i ben yng nghanol tref Caerffili yn dilyn 8 cam dwys o rasio ledled y Deyrnas Unedig. Gyda'r cyffro'n cael ei ddarlledu ar deledu byw (ITV4) - bydd y digwyddiad yn arddangos Caerffili ar lwyfan y byd wrth i'r beicwyr ddod i mewn i'r Fwrdeistref Sirol drwy Nelson, pasio trwy Lanbradach a chwblhau dwy lap o fynydd Caerffili cyn croesi'r llinell derfyn o flaen y castell eiconig.
Dyma'r manylion llawn (gan gynnwys manylion am gau ffyrdd) i alluogi trigolion i gynllunio ymlaen llaw.
Bydd beicwyr yn dod i mewn i'r Fwrdeistref Sirol ar hyd yr A4054, yn mynd i'r dde ar y gylchfan i ymuno â'r A472 (Heol Pontypridd) tuag at Nelson.
Amserau yn fras:
- Beicwyr yn dod i mewn i'r Fwrdeistref Sirol ar hyd yr A4054, Nelson - car arwain yn cyrraedd tua 14:26. Beicwyr yn cyrraedd tua 14:41.
- Beicwyr yn pasio trwy Lanbradach - car arwain yn cyrraedd 14:39. Beicwyr yn cyrraedd tua 14:54.
- Beicwyr yn pasio cylchfan Pwll-y-pant - car arwain yn cyrraedd 14:44. Beicwyr yn cyrraedd tua 14:59.
Mae'r system cau ffyrdd dreigl yn dod i ben yn y man cyfarfod rhwng Heol Pontygwindy a chyffordd Castle Street.
I gael rhagor o wybodaeth am The Tour of Britain, ewch i'r wefan swyddogol.
Cliciwch YMA i ymuno â'r digwyddiad Facebook swyddogol.
Cau Ffyrdd
Map Parcio
Mae meysydd parcio cyhoeddus ar gael yn y lleoliadau canlynol:
- Maes parcio Station Terrace (talu ac arddangos)
- Cyfleuster Parcio a Theithio Caerffili (am ddim)
- Morrisons / Canolfan Siopa Cwrt y Castell (am ddim, hyd at 3 awr)
Mae nifer o raciau beiciau yng nghanol tref Caerffili, wedi'u nodi'n borffor ar y map. Gellir dod o hyd i raciau beiciau yng Nghyfnewidfa Drafnidiaeth Caerffili, yn ogystal â ledled Heol Caerdydd a thu allan i Morrisons.