Ymgyrch Siôn Corn 2024
				
				Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio			
			 Mae apêl flynyddol ‘Ymgyrch Siôn Corn’ Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael ei lansio heddiw a bydd yn parhau ar agor tan ddydd Gwener 29 Tachwedd.
Mae cannoedd o blant ledled y Fwrdeistref Sirol mewn perygl o beidio â chael anrheg y Nadolig hwn. Nod Ymgyrch Siôn Corn yw darparu anrhegion i'r rhai sy’n cael eu henwebu gan eu gweithwyr cymdeithasol.
Rydyn ni’n gofyn i drigolion addo arian parod trwy ein tudalen codi arian i sicrhau bod plant lleol yn cael anrhegion erbyn y diwrnod mawr.
Mae'r llinell addewidion yn darparu ffordd gyflym a hawdd i grwpiau ac unigolion hael addo arian parod i blentyn y Nadolig hwn. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ymweld â'n tudalen rhoddion.
Os ydych chi am brynu tocyn rhodd, peidiwch â lapio’r daleb. Yn hytrach, rhowch mewn amlen a sicrhau ei fod wedi’i farcio’n glir â’r wybodaeth isod:

- Teitl yr amlen fel ‘Ymgyrch Siôn Corn’
- Gwerth y daleb/cerdyn rhodd
- Llyfrgell Bargod (CF81 8QR)
- Llyfrgell Coed Duon (NP12 1AJ)
- Llyfrgell Caerffili (CF83 1JL)
- Llyfrgell Trecelyn (NP11 4FH)
- Llyfrgell Rhymni (NP22 5NU)
- Llyfrgell Rhisga (NP11 6BW)
- Llyfrgell Ystrad Mynach (CF82 7BB)