Ffair y Gaeaf, Caerffili 2024, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni ac Arddangosfa Tân Gwyllt
Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
Canol Tref Caerffili CF83 1JL
01443 866390 digwyddiadau@caerffili.gov.uk
Ymunwch â'r digwyddiad Facebook swyddogol!
I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Mae Ffair y Gaeaf yng Nghaerffili yw’r lle perffaith i chi deimlo ysbryd y Nadolig. Profwch olygfeydd, seiniau ac arogleuon y dref a’r castell wrth baratoi ar gyfer y Nadolig, gyda bwyd stryd blasus, arogl gwin brwd, theatr stryd gyffrous a dros 60 o stondinau bwyd, crefft a rhoddion, gan gynnwys atyniadau ffair i ddiddanu’r holl deulu! Yn rhan o’r digwyddiad hudolus hwn mae’r Orymdaith Lusernau Afon y Goleuni sy’n dechrau am 5pm ac yn gorffen gydag Arddangosfa Tân Gwyllt am 5:45pm! Wrth ymweld â Ffair y Gaeaf yng Nghaerffili, cofiwch fynd i'r Farchnad Crefftwyr boblogaidd yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn, Ffair Grefftau Crafty Legs wrth y Senotaff, a Marchnad Crefft a Bwyd Cwrt y Castell yng Nghanolfan Siopa Cwrt y Castell. Mae'r holl farchnadoedd hyn yn ategu Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Caerffili, a'r cymysgedd o siopau annibynnol a siopau’r stryd fawr sydd yn y dref. Mae'r digwyddiad hwn AM DDIM! Mae ffioedd mynediad arferol yn berthnasol i’r castell. Am ragor o wybodaeth, neu e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390. Oes diddordeb gennych chi mewn cael stondin yn y digwyddiad hwn? Cysylltwch â digwyddiadau@caerffili.gov.uk. Mae Cyngor Tref Caerffili yn cynorthwyo’r digwyddiad hwn.Rhestr Stondinau

Cliciwch yma i weld y rhestr stondinau llawn!
Map Parcio

- Maes Parcio Station Terrace, CF83 1JU (talu ac arddangos)
- Cyfleuster Parcio a Theithio Caerffili, CF83 1JU (am ddim)
- Maes Parcio Crescent Road, CF83 1AB (talu ac arddangos)
- Morrisons / Canolfan Siopa Cwrt y Castell, CF83 1XP (am ddim, hyd at 3 awr)
Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr - Digwyddiadau Gaeaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 2024



