Mae Y Fan (neu Blasty’r Fan yn ôl yr enw lleol) yn blasty Tuduraidd rhestredig Gradd II preifat, sydd wedi cael ei adnewyddu’n sylweddol i safon uchel ers i ni brynu’r eiddo yn 2017.
Wedi’i leoli ar gyrion Caerffili, mae’r eiddo ar bwys doldir hynafol Gwern y Domen, sy’n cynnig llwybrau cerdded hyfryd, a dim ond 10 munud ar droed yw taith i ganol tref Caerffili a Chastell Caerffili. Mae’r daith i orsaf drenau Caerffili tua 15 munud ar droed gyda threnau’n aml i Gaerdydd (bob 15 munud), a hefyd mae mynediad rhwydd i’r A470 a’r M4. Mae llwybr Taith Taf yn hawdd ei gyrraedd ac mae parc beicio mynydd dim ond 5 munud i ffwrdd. Mae’r eiddo’n ganolfan berffaith ar gyfer archwilio a mwynhau pleserau niferus De Cymru.
Mae Y Fan yn westy Gwely a Brecwast sy’n cael ei gynnal yn breifat gyda’r perchnogion, Adrian a Christine, yn byw ar y safle. Mae Te Prynhawn neu blât Caws Cymreig a Charcuterie hefyd ar gael. Mae angen cadw lle o leiaf 48 awr ymlaen llaw.
Mae’r system wresogi Megaflo yn sicrhau bod gan yr holl ystafelloedd ymolchi ddŵr poeth ar alw a phwysedd dŵr da (sef un o’n cas bethau pan rydyn ni’n aros yn unrhyw le arall!) hyd yn oed pan fydd pob cawod yn cael eu defnyddio ar yr un pryd. Mae gan yr eiddo system chwistrellu wedi’i gosod ym mhob ystafell rhag ofn bydd tân.
Mae pob ystafell wely mewn maint da gyda gwelyau maint Brenin neu faint Brenin mawr (mae gan un ystafell bâr o welyau sydd hefyd yn gallu cael eu cloi gyda’i gilydd i wneud gwely maint Brenin) ac mae ganddyn nhw i gyd ystafell ymolchi en-suite gyda chawod dŵr glaw, gwresogi dan y llawr, pwynt trydan ar gyfer eilliwr/brws dannedd trydanol, rheilen dyweli wedi’i chynhesu a drych diniwlio. Mae gan ddwy o’r ystafelloedd gwely fath a chawod hefyd.
Mae gan bob ystafell wely sychwr gwallt, teledu mawr wedi’i osod ar y wal, Wi-Fi am ddim i westeion a chyfleusterau gwneud te a choffi. Mae pethau ymolchi yn cael eu darparu mewn peiriannau dosbarthu ar y wal.
Mae gan yr eiddo lawer o risiau, felly, mae’n debyg na fydd yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â phroblemau symud. Nodwch does dim hawl ysmygu yn yr eiddo hwn. Yn anffodus, rydyn ni wedi penderfynu na fydd yr eiddo’n gyfeillgar i anifeiliaid anwes gan ein bod ni’n adnabod gormod o bobl ag alergeddau (a rhai sy’n ofni cŵn!).
Mae gan yr eiddo far trwyddedig yn y lolfa gymunedol lle gall gwesteion fwynhau diod yn eistedd wrth y llosgwr pren, a byrddau a chadeiriau yn y cwrt y tu allan at ddefnydd gwesteion pan fydd y tywydd yn caniatáu. Mae dewis o gemau bwrdd a llawer o lyfrau ar gael hefyd i’w mwynhau gan westeion.
Mae Teledu Cylch Cyfyng ar waith yn y maes parcio ac yn yr ystafell fwyta a’r salon/derbynfa er diogelwch. Mae man gwefru ceir trydan yn y maes parcio i westeion ei ddefnyddio, yn amodol ar dâl ychwanegol.
Dim ond gwesteion sydd wedi cadw lle i aros yn yr eiddo sy’n cael mynediad i ystafelloedd gwely.