
Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.
DWEUD CAWS! Mae Tîm Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o gyhoeddi bod Gŵyl Caws Caerffili yn dychwelyd ar dydd Sadwrn 30 a ddydd Sul 31 Awst!
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yng nghanol tref Caerffili, CF83 1JL, ac y man glaswelltog y tu ôl i Gastell Caerffili. Bydd digonedd o stondinau bwyd, crefft a diod gyda chwrt bwyd poeth arbennig ac ardal yfed ym Maes Parcio’r Twyn.
Bydd tafarndai a bistros allweddol yng nghanol y dref yn creu ardaloedd yfed awyr agored i ymwelwyr allu eistedd ac ymlacio wrth fwynhau’r adloniant.
Bydd y digwyddiad yn gartref i gerddorion lleol a phrif gerddorion ynghyd â nifer o stondinau bwyd a diod. Bydd gweithdai cerddoriaeth, sesiynau crefft a reidiau ffair bach i’r plant hefyd.
Am ragor o wybodaeth am Ŵyl Caws Caerffili, ewch i’r wefan swyddogol neu wefan Facebook swyddogol.
Ar gyfer pob ymholiad am y digwyddiad, e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Map Safle’r Digwyddiad
Tybed ble i ddod o hyd i bopeth yng Ngŵyl Gaws Caerffili’r penwythnos hwn? Dim problem! Rydym wedi creu map safle digwyddiad defnyddiol i’ch helpu i ddod o hyd i’ch ffordd o gwmpas!
Gellir dod o hyd i’r ffair gaws, neuaddau bwyd, Llwyfan Ffos y Castell a’r ffair hwyl yng nghefn Castell Caerffili, ac mae modd cyrraedd y lleoliad o ganol y dref trwy Barc Dafydd Williams neu Lwybr y Pysgotwyr o amgylch Castell Caerffili.
Noder: nid oes mynediad uniongyrchol i’r gweithgareddau yng nghefn Castell Caerffili trwy’r castell ei hun, ac mae mynediad i’r castell yn costio ffi. Am ragor o wybodaeth am ymweld â Chastell Caerffili, ewch i wefan Cadw.
Parcio a Thrafnidiaeth
Cliciwch ar y llun isod am fersiwn PDF o fap parcio.
Gwybodaeth Bwysig am Deithio: Nodwch, oherwydd gwaith parhaus ar Reilffordd Rhymni Uchaf, bydd gwasanaethau bysiau yn lle trenau ar waith rhwng Rhymni a Chaerffili ddydd Sadwrn 30 a dydd Sul 31 Awst, a allai effeithio ar eich taith i’r digwyddiad ac oddi yno. Ni fydd gwasanaethau trenau i’r de o Gaerffili (e.e. i Gaerdydd ac yn ôl) yn cael eu heffeithio. Bydd bysiau’n rhedeg bob 15 munud o Fargoed, a phob 30 munud o Rymni.
Byddwch yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus a chaniatáu amser ychwanegol wrth deithio neu wneud trefniadau teithio amgen os oes angen. Rydyn ni’n eich cynghori chi i wirio journeycheck.com* cyn i chi deithio.
Mae Trafnidiaeth Cymru ar gael 24/7 i ateb eich cwestiynau, felly ffoniwch 033 33 211 202. Fel arall, gallwch chi gysylltu â nhw drwy WhatsApp ar 07790 952507 (07:00-20:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac 11:00-20:00 ddydd Sul).
Parcio
Mae meysydd parcio cyhoeddus ar gael yn y lleoliadau canlynol:
- Maes parcio Station Terrace CF83 1JU (talu ac arddangos)
- Cyfleuster Parcio a Theithio Caerffili CF83 1JU (am ddim)
- Maes parcio Crescent Road CF83 1AB (talu ac arddangos)
- Morrisons/Canolfan Siopa Cwrt y Castell CF83 1XP (am ddim, hyd at 3 awr)
Mae cyfleusterau parcio a cherdded AM DDIM yn y lleoliadau canlynol:
- Ysgol Martin Sant, Hillside, CF83 1UW
- Ysgol Gyfun Cwm Rhymni y Gwyndy, CF83 3HG
- Parcio gorlif ar Gae Chwarae Owain Glyndwr, Heol Cilgant, CF83 1AB (yn dibynnu ar y tywydd)
Gallwch chi ddefnyddio Parkopedia* i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feysydd parcio yn yr ardal, gan gynnwys prisiau.
❗️ Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Rheseli Beiciau
Mae nifer o reseli beiciau yng nghanol tref Caerffili, wedi’u nodi’n borffor ar y map. Mae rheseli beiciau ar gael ledled Cardiff Road, y Twyn a thu allan i Morrisons.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Mae gorsaf drenau Caerffili ger safle’r digwyddiad, gyda threnau i Fargod a Chaerdydd ac yn ôl bob 15 munud, a threnau i Rymni ac yn ôl bob awr.
Mae gorsaf fysiau Caerffili hefyd yn darparu cyswllt uniongyrchol â Chaerdydd a llwybrau eraill ledled y Fwrdeistref Sirol.
Ewch i wefannau Trafnidiaeth Cymru* a Traveline Cymru* i gael rhagor o wybodaeth am amserlenni trenau a bysiau.
❗️ Gwiriwch am newidiadau posibl i amserlenni/llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer diwrnod y digwyddiad cyn teithio.
*Nid yw Croeso Caerffili yn gysylltiedig â’r sefydliad hwn.
Rhestr Stondinau
Bydd detholiad enfawr o gonsesiynau bwyd poeth, bariau, stondinau caws a digonedd o stondinau bwyd, diod, crefftau a gwybodaeth eraill yn ymuno â ni yng Ngŵyl Gaws Caerffili!
Cliciwch yma i weld y rhestr stondinau lawn!
Rhaglen Gerddoriaeth
Cliciwch yma i weld y rhaglen gerddoriaeth lawn!
DYDD SADWRN
Ardal A – Llwyfan y Foneddiges Werdd – Cardiff Road / Kings Arms |
|
12:00 – 13:00 | Secret Postal Society |
13:15 – 14:30 | Gypsy Flower |
14:45 – 16:00 | Act Happy |
16:15 – 17:30 | Livestock Davies (solo) |
17:45 – 19:00 | Wrenna |
Ardal B – Llwyfan Ffos y Castell – Crescent Road |
|
12:00 – 13:00 | Juno |
13:15 – 14:30 | Ragsy |
14:45 – 16:00 | The Orphic Blue |
16:15 – 17:30 | Cadence |
17:45 – 19:00 | Moonstorm |
Ardal C – Prif Lwyfan y Twr Cam – Maes Parcio’r Twyn |
|
10:30 – 11:00 | Kinetic School of Performing Arts |
12:00 – 13:00 | The Blues Sisters |
13:25 – 14:25 | Juicy & the Jokers |
14:50 – 16:00 | No One Knows |
16:25 – 17:35 | Albino Frogs |
18:00 – 19:00 | PRIF ARTISTIAID: The Switchtones |
DYDD SUL
Ardal A – Llwyfan y Foneddiges Werdd – Cardiff Road / Kings Arms |
|
12:00 – 12:45 | Late to the Party |
13:00 – 14:00 | Two Trick Pony |
14:15 – 15:15 | Two Hats |
15:45 – 17:00 | Rebecca Richards (trio) |
Ardal B – Llwyfan Ffos y Castell – Crescent Road |
|
12:00 – 12:45 | Acoustic Notation |
13:00 – 14:00 | The Louis & Ella Music Show |
14:15 – 15:15 | Post Modern Shoebox |
15:45 – 17:00 | Omega Two |
Ardal C – Prif Lwyfan y Twr Cam – Maes Parcio’r Twyn |
|
10:00 – 10:30 | Sound of Hope |
12:00 – 12:45 | St Louis Express |
13:10 – 14:00 | Monkjack |
14:25 – 15:15 | Nookee |
15:45 – 17:00 | PRIF ARTISTIAID: Big Mac’s Wholly Soul Band |
Rhaglen Adloniant
Cyhoeddir rhaglen adloniant lawn yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau’r Haf Cyngor Caerffili 2025
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.