Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.
Ymunwch â ni ar gyfer Gŵyl Fwyd Rhisga gyntaf erioed ddydd Sadwrn 20 Medi 2025 ym Mharc Tredegar, canol tref Rhisga NP11 6BW!
Ac yntau’n cynnwys llwyth o ddanteithion blasus, arddangosiadau coginio, reidiau ffair a digon o weithgareddau eraill i’w mwynhau, mae’n bendant yn un na ddylech chi ei golli!
Felly, dewch draw am ddiwrnod allan llawn hwyl a bwyd i’r teulu!
Trefnir y digwyddiad hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffoniwch 01443 866390.
Mae parcio i’r cyhoedd ar gael am ddim yn y meysydd parcio cyfagos canlynol:
Mae gan bob un o’r meysydd parcio uchod gilfachau parcio i bobl anabl. Gwiriwch yr arwyddion ym
mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Gwasanaethau Trên
Gallwch chi gyrraedd safle’r digwyddiad yn Nhiroedd Tredegar, NP11 6BX, mewn 7 munud ar droed o
orsaf reilffordd Rhisga a Phont-y-meistr.
Gwasanaethau Bws
Mae safleoedd bysiau Eglwys y Bedyddwyr Moriah a Spar, yn Rhisga, yn union y tu allan i safle’r digwyddiad yn Nhiroedd Tredegar.
I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i Risga ac yn ôl, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae rheseli beiciau ar gael y tu allan i Lyfrgell Rhisga, NP11 6BW.
Cyhoeddir rhaglen adloniant lawn yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Cyhoeddir rhestr lawn o stondinau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.