Gŵyl Caws Caerffili 2024
Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
Canol Tref Caerffili CF83 1JL
01443 866390 digwyddiadau@caerffili.gov.uk
Ymunwch a'r digwyddiad Facebook swyddogol Gŵyl Caws Caerffili 2024!
DWEUD CAWS! Mae Tîm Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o gyhoeddi bod Gŵyl Caws Caerffili yn dychwelyd ar dydd Sadwrn 31 Awst a ddydd Sul 1 Medi! Paratowch am benwythnos bendigedig o gerddoriaeth fyw, bwyd gwych a llawer o hwyl! Eleni, rydyn ni'n gwneud y digwyddiad yn fwy gyda ffair fwy, neuaddau bwyd, ardal bicnic a hyd yn oed mwy o stondinau! Oherwydd y gwaith datblygu parhaus yng Nghastell Caerffili, yn anffodus nid yw'r Caws Mawr yn gallu digwydd yn ei fformat arferol yn 2024, ond peidiwch â phoeni, gan fod Gŵyl Caws Caerffili sy'n dychwelyd eleni yn argoeli rhoi hwb MAWR! Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yng nghanol tref Caerffili, CF83 1JL, ac y man glaswelltog y tu ôl i Gastell Caerffili. Bydd digonedd o stondinau bwyd, crefft a diod gyda chwrt bwyd poeth arbennig ac ardal yfed ym Maes Parcio’r Twyn. Yng nghanol y dref, bydd nifer o ardaloedd cerddoriaeth, yn ogystal â llwyfan canolog ym Maes Parcio’r Twyn gyda phrif artistiaid ‘Big Mac's Wholly Soul Band’ ar dydd Sadwrn a ‘Slipped Disco’ ar dydd Sul. Bydd tafarndai a bistros allweddol yng nghanol y dref yn creu ardaloedd yfed awyr agored i ymwelwyr allu eistedd ac ymlacio wrth fwynhau'r adloniant. Bydd y digwyddiad yn gartref i gerddorion lleol a phrif gerddorion ynghyd â nifer o stondinau bwyd a diod. Bydd gweithdai cerddoriaeth, sesiynau crefft a reidiau ffair bach i’r plant hefyd. Am ragor o wybodaeth am Ŵyl Caws Caerffili, ewch i'r wefan swyddogol neu wefan Facebook swyddogol. Ar gyfer pob ymholiad am y digwyddiad, e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.Parcio a Thrafnidiaeth
Cliciwch ar y llun isod am fersiwn PDF o fap parcio.
Parcio
Mae meysydd parcio cyhoeddus ar gael yn y lleoliadau canlynol:- Maes parcio Station Terrace CF83 1JU (talu ac arddangos)
- Cyfleuster Parcio a Theithio Caerffili CF83 1JU (am ddim)
- Maes parcio Crescent Road CF83 1AB (talu ac arddangos)
- Morrisons/Canolfan Siopa Cwrt y Castell CF83 1XP (am ddim, hyd at 3 awr)
- Ysgol Martin Sant, Hillside, CF83 1UW
Rheseli Beiciau
Mae nifer o reseli beiciau yng nghanol tref Caerffili, wedi'u nodi'n borffor ar y map. Mae rheseli beiciau ar gael ledled Cardiff Road, y Twyn a thu allan i Morrisons.Trafnidiaeth gyhoeddus
Mae gorsaf drenau Caerffili ger safle’r digwyddiad, gyda threnau i Fargod a Chaerdydd ac yn ôl bob 15 munud, a threnau i Rymni ac yn ôl bob awr. Mae gorsaf fysiau Caerffili hefyd yn darparu cyswllt uniongyrchol â Chaerdydd a llwybrau eraill ledled y Fwrdeistref Sirol. Ewch i wefannau Trafnidiaeth Cymru* a Traveline Cymru* i gael rhagor o wybodaeth am amserlenni trenau a bysiau. ❗️ Gwiriwch am newidiadau posibl i amserlenni/llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer diwrnod y digwyddiad cyn teithio.Gwybodaeth teithio bwysig: Mae disgwyl i fysiau redeg yn lle trenau ar reilffordd Rhymni ddydd Sadwrn 31 Awst a ddydd Sul 1 Medi, a allai effeithio ar eich taith i Ŵyl Caws Caerffili ac yn ôl. Byddwch yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd hyn a chaniatáu amser ychwanegol wrth deithio neu wneud trefniadau teithio arall os oes angen.*Nid yw Croeso Caerffili yn gysylltiedig â'r sefydliad hwn.
Ras y Caws Caerffili
Rydyn ni'n llawn cyffro i gyhoeddi y bydd y Ras Gaws enwog yn rholio yng Ngŵyl Caws Caerffili eto eleni!
Bydd timau o 4 yn dechrau o gefn Castell Caerffili gyda'u holwynion o gaws, gan fynd trwy Barc Dafydd Williams i geisio cyrraedd blaen y castell yn gyntaf!
Mewn partneriaeth â Thîm Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, bydd Ras y Caws Bach yn cael ei rheoli gan Chwaraeon Caerffili a noddi gan eInfinity.
Mae Ras y Caws yn digwydd dydd Sadwrn 31 Awst, gyda gofrestru â 9:30am a ras cyntaf yn digwydd â 10am.
Ras 1: 7-11 oed
Ras 2: 12-15 oed
Ras 3: 16+ oed
Gwobr o £100, tlws a medalau ar gyfer pob categori buddugol!
Mynediad AM DDIM ar gyfer y ras, a bydd yr holl gyfranogwyr yn cael tocyn am ddim i'r ffair! Hefyd, medalau ar gyfer y wisg ffansi orau!
Cysylltwch â Chwaraeon Caerffili:
Ffon: 07919 627426 E-bostiwch: meredro@caerphilly.gov.uk
Rhestr Stondinau
Cliciwch yma i weld y rhestr stondinau llawn!
Rhaglen Gerddoriaeth
Gyda thri llwyfan gwahanol ar hyd a lled canol y dref, mae cerddoriaeth i'w fwynhau bobman!
Cliciwch yma i weld y rhaglen gerddoriaeth lawn!
| Dydd Sadwrn 31 Awst | Dydd Sul 1 Medi | |
| Prif Lwyfan y Tŵr Cam – Maes Parcio'r Twyn |
|
|
| Llwyfan y Foneddiges Werdd – Heol Caerdydd / The Kings Arms |
|
|
| Llwyfan Ffos y Castell – Y tu ôl i Gastell Caerffili / Heol Cilgant |
|
|
Rhaglen Adloniant
Paratowch am benwythnos bendigedig o gerddoriaeth fyw, bwyd gwych a llawer o hwyl!
Cliciwch yma i weld y rhaglen adloniant yn lawn!
Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr - Digwyddiadau Canol Trefi Cyngor Caerffili, Haf 2024
Gweler yr hysbysiadau isod am wybodaeth bwysig ynghylch cau ffyrdd, systemau traffig a mynediad i breswylwyr/manwerthwyr yn ystod ein Digwyddiadau'r Haf 2024 ni. Cliciwch neu daro ar y delweddau i gael fersiwn sgrin lawn o’r Hysbysiad i Breswylwyr a Manwerthwyr.
Mae Caerffili yn Dref Smart!
Archwilio'r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yng Ngŵyl Caws Caerffili, trwy lawrlwytho'r ap VZTA Smart Towns.
Lawrlwythwch am ddim, yma!
Mae’r prosiect hwn ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.