Martin Kemp’s Back To The 80’s

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Blackwood Miners Institute, Blackwood NP12 1BB
  01495 227206

Felly, tyrchwch allan eich hosanau coesau neu wisg fwyaf dychrynllyd, cydio yn eich esgidiau dawnsio a pharatoi am noson ddisglair ym mharti Calan Gaeaf mwyaf erioed yr 80au i ddod i Goed Duon!

Ers cymryd rhan yn llwyddiant byd-eang Spandau Ballet, mae Martin Kemp wedi parhau i gael gyrfa enwog iawn.  Mae’n deg dweud ei fod yn gwybod sut i ddiddanu, o chwarae’r prif rannau yn sioeau fel The Krays ac Eastenders ac yn fwy diweddar trwy serennu ar Channel 4 ar Celebrity Island With Bear Grylls a Celebrity Gogglebox. Ymunwch â Martin wrth iddo roi’r gorau i’w fas ar gyfer y deciau a throelli’r caneuon gorau o’r 1980au! Ydych chi’n barod i fynd i barti? Anogir gwisg ffansi. Mae cyfyngiad oedran ar gyfer y digwyddiad hwn sef 16+. Pris tocynnau yw £20.00 (gan gynnwys ffi archebu) ac maent ar gael o swyddfa docynnau'r lleoliad ar 01495 227206 neu ar y wefan yn www.blackwoodminersinstitute.com . Nos Sadwrn 2 Tachwedd, drysau'n agor am 7.30pm, gorffen am 11.00pm (amcangyfrif).