Parti Traeth Rhisga 2025

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Tredegar Park, Risca NP11 6BW
  01443 866390   events@caerphilly.gov.uk

Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.

Mae Parti Traeth Rhisga yn ddigwyddiad sy’n cael ei gynnal o 10am tan 4pm ar ddydd Sadwrn 7 a dydd Sul 8 Mehefin ym Mharc Tredegar, sydd wedi’i leoli oddi ar Tredegar Street yng nghanol tref Rhisga!

Bydd y digwyddiad deuddydd hwn yn gartref i draeth anferth yn llawn cadeiriau cynfas a theganau traeth i ddiddanu pawb. Bydd sioeau Pwnsh a Siwan yn cael eu cynnal yn rheolaidd drwy gydol y dydd a bydd detholiad o reidiau ffair i bobl ifanc, ynghyd ag amrywiaeth o atyniadau i ddiddanu pawb!

Bydd nifer fach o stondinau yn gwerthu losin, brownis, a phice ar y maen, yn ogystal â diodydd poeth ac oer, tatws ar ffurf troell, ‘Dinky Donuts’ a’r fan hufen iâ holl bwysig! Beth am fentro i’r dref a #DewisLleol… dewch â sglodion neu ddanteithion picnic yn ôl i’w mwynhau ar y traeth a chefnogi’r manwerthwyr lleol… gwyliwch yr asynnod ond peidio â cheisio ymuno â’r amser bwydo!

Mae digon o fannau agored yn y parc ar gyfer picnic hefyd, felly, dewch â’ch blancedi a’ch danteithion gyda chi ac aros am y diwrnod! (Sylwer: ni chaniateir alcohol yn y digwyddiad.)

I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.

❗️ Sylwer: mae croeso mawr i gŵn ddod i Barti Traeth Rhisga, ac eithrio ardal y traeth am resymau iechyd a diogelwch. Er bod croeso i gŵn yn ein digwyddiadau, efallai y bydd y nifer fawr o bobl yn codi ofn ar rai cŵn, a all fod yn niweidiol i’w lles ac achosi iddyn nhw frathu. Mae perchnogion sy’n dod â chŵn i ddigwyddiad yn gwneud hynny ar eu menter ac atebolrwydd eu hunain.


Rhaglen Adloniant

Dyma rai o’r gweithgareddau ym Mharti Traeth Rhisga:

  • Traeth anferth
  • Reidiau ar gefn asynnod
  • Reidiau ffair hwyl
  • Stondinau bwyd, diod, crefft a wybodaeth

a MWY!

Cliciwch yma i weld y rhaglen adloniant lawn!


Gwybodaeth Teithio a Parcio

Parcio Ceir

Mae parcio i’r cyhoedd ar gael am ddim yn y meysydd parcio cyfagos canlynol:

  • Maes parcio Tredegar Terrace, NP11 6BY
  • Parcio a Theithio Gorsaf Reilffordd Rhisga a Phont-y-meister, NP11 6BD
  • Maes parcio Tesco Extra (amser cyfyngedig ac ar gael i gwsmeriaid yn unig), NP11 6NP

Mae gan bob un o’r meysydd parcio uchod gilfachau parcio i bobl anabl. Gwiriwch yr arwyddion ym
mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Gwasanaethau Trên

Gallwch chi gyrraedd safle’r digwyddiad yn Nhiroedd Tredegar, NP11 6BX, mewn 7 munud ar droed o
orsaf reilffordd Rhisga a Phont-y-meistr.

  • Mae gorsaf reilffordd Rhisga a Phont-y-meister ar reilffordd Glyn Ebwy, ac mae trenau’n rhedeg bob awr i Chasnewydd ac yn ôl a bob 30 munud i Lynebwy a Chaerdydd Canolog ac yn ôl. Efallai y bydd tarfu ar wasanaethau rheilffordd, gwiriwch ymlaen llaw am unrhyw newidiadau i wasanaethau.

Gwasanaethau Bws

Mae safleoedd bysiau Eglwys y Bedyddwyr Moriah a Spar, yn Rhisga, yn union y tu allan i safle’r digwyddiad yn Nhiroedd Tredegar.

  • X15 (Stagecoach): Bryn-mawr – Casnewydd trwy Drecelyn ac Abertyleri
  • 56 (Stagecoach): Tredegar – Coed Duon – Casnewydd
  • 151 (Stagecoach): Coed Duon – Casnewydd trwy Drecelyn a Rhisga
  • R1 (Newport Bus): Casnewydd – Ty Sign – Rhisga
  • R2 (Newport Bus): Tŷ-du (Morrisons) – Fernlea – Rhisga

I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i Risga ac yn ôl, ewch i wefan Traveline Cymru.

Rheseli Beiciau

Mae rheseli beiciau ar gael y tu allan i Lyfrgell Rhisga, NP11 6BW.


Rhestr Stondinau

Cyhoeddir rhestr lawn o stondinau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.


Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau’r Haf Cyngor Caerffili 2025



Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.

Gwybodaeth bellach

Amseroedd dyddiol y digwyddiad

Dydd Sadwrn 7 Mehefin, 10:00am-4:00pm
Dydd Sul 8 Mehefin, 10:00am-4:00pm

Cyswllt

CCBC Events Team

Lleoliad