Mae Cwm Aber wedi’i leoli yn Ne-ddwyrain Cymru ac mae ganddo ddwy brif gymuned, Abertridwr a Senghenydd, a wnaeth dyfu o amgylch y diwydiant glo yn ystod diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif.
Dewch i ymweld â’r Amgueddfa Treftadaeth sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Gymunedol Senghenydd. Mae’r amgueddfa wedi’i neilltuo i dreftadaeth gyfoethog Cwm Aber yng Nghaerffili, gyda phwyslais arbennig ar y ddwy lofa (Glofa’r Universal a Glofa Windsor yn Abertridwr) a oedd yn tremio dros y Cwm yn y gorffennol. Yn arbennig, mae’r gymuned wedi rhoi nifer o ffotograffau gwych ynghyd â chasgliad godidog o arteffactau a phethau cofiadwy. Mae pob un ohonyn nhw yn cael eu harddangos mewn cypyrddau arddangos amrywiol ac ar y ddwy sgrin gyffwrdd ryngweithiol.
Ar ôl i chi ymweld â’r amgueddfa a’r ardd, beth am gerdded ar hyd ein llwybr hanes 3 milltir “Walking Through Time,” sy’n dechrau yn yr Ardd Goffa. Mae’n ymweld â 30 o fannau o ddiddordeb drwy Senghenydd ac Abertridwr ac yn addysgu am hanes Cwm Aber. Mae mapiau papur ar gael yn yr amgueddfa, neu gallwch chi ddilyn cyfarwyddiadau a darllen am hanes pob safle ar y wefan: Cerdded Drwy Amser