Brewers Lodge

  Gordon Road, Blackwood NP12 1DS
  01495 230240   info@brewerslodge.co.uk   Ewch i'r wefan

Mae gan Brewers Lodge, sy’n edrych dros dref brysur Goed Duon, olygfeydd o fynyddoedd Mynyddislwyn a chwm ffrwythlon Sirhywi sy’n llawn gwyrddni a thir amaeth.

Mae’n cynnwys 16 o ystafelloedd en suite modern sydd â theledu lloeren a WiFi. Mae WiFi ar gael hefyd yn y bwyty a’r bar.

Gellir parcio’r car am ddim, ac mae hen ddigon o leoedd ar gael. Mae gorsaf drenau Pengam 2.7 milltir i ffwrdd, ac mae cyfnewidfa bysiau dim ond hanner milltir i ffwrdd.

Er bod Brewers Lodge wedi’i leoli nid nepell o rai o goetiroedd mwyaf hardd y rhanbarth, mae hefyd o fewn cyrraedd hawdd i ddinasoedd Casnewydd, Caerdydd a Bryste.

Gwybodaeth bellach

Cyswllt

Catherine Brewer

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad