Mae Gelligaer yn gymuned hynafol â gorffennol Rhufeinig a oedd wedi’i chuddio nes i archeolegwyr Edwardaidd ddechrau cloddio Gaer Fawr a Gaer Fach a chadarnhau bod Caer Rufeinig wedi’i chuddio o dan y glaswellt.
Yn 2010, bron i 2000 o flynyddoedd ar ôl i’r Rhufeiniaid a’r Silwriaid frwydro dros y bryniau hyn, mae Gelligaer unwaith eto yn adrodd stori’r Rhufeiniaid yng nghymoedd De Cymru.
Beth am ymweld â’r pentref, sydd â hanes sy’n ymestyn yn ôl i gynhanes, a threftadaeth sy’n aros i chi ei harchwilio.