
Mae caffi’r Summit Centre yn fan gorffwys perffaith i bawb, gan weini bwyd blasus mewn awyrgylch cyfforddus a hamddenol gyda golygfeydd godidog o gefn gwlad a’r wal ddringo dan do gyfagos.
Dewch i fwynhau detholiad o goffi go iawn, diodydd, cacennau neu brydau blasus, i gyd wedi’u cyrchu’n lleol ac yn gynnyrch Masnach Deg lle bo modd.
Dewch i’n gweld ni…
P’un a ydych chi’n ddringwr sydd angen adfer eich egni, yn gerddwr cŵn, yn feiciwr, yn lleol i barc Taf Bargod neu’n deulu sy’n ymweld â’r ganolfan weithgareddau am y diwrnod, mae’n bendant yn werth ymweld â’n caffi. Rydyn ni’n gaffi sy’n croesawu teuluoedd a chŵn ac mae croeso mawr i esgidiau mwdlyd.
Ardal Chwarae Awyr Agored…
I’r plant iau, mae gennym ni bellach ardal chwarae awyr agored yn arbennig ar eu cyfer nhw! Gan fod y safle yn arfer bod yn hen bwll glo, mae ein maes chwarae awyr agored ar thema lofaol. Gyda blwch dillad i wisgo fel glöwr, sleidiau, pwlïau, bwcedi a rhwydi cargo, mae digonedd i’w diddanu nhw. A’r peth gorau, mae’r ardal chwarae yng ngardd y caffi felly gallwch chi gadw llygad ar y plant wrth fwynhau coffi a chacen!
Oriau agor…
- Dydd Sul a dydd Llun: AR GAU
- Dydd Mawrth-dydd Iau: 10:00-21:00
- Dydd Gwener a dydd Sadwrn 10:00-17:00
Sylwch fod y gwasanaeth bwyd yn gorffen 30 munud cyn cau.