Caffi’r Ffynnon – Capel y Bedyddwyr, Argoed

  Capel Argoed, High Street, Blackwood NP12 0HQ

Gwybodaeth bellach

Cyswllt

Valerie Morrill

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad

Mae Caffi'r Ffynnon wedi'i leoli yn adeilad hanesyddol Capel y Bedyddwyr, Argoed, yng nghanol rhyfeddod Cwm Sirhywi.

Ac yntau'n sefyll wrth ymyl llwybr beicio'r cwm (Llwybr 467), mae Caffi'r Ffynnon yn lle bendigedig i orffwys wrth deithio ar droed, ar gefn beic neu mewn car. Mae'r caffi hwn, sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, yn gweini teisennau cartref blasus, te a choffi, ac mae'n gyfle gwych i fwynhau'r capel Cymreig hanesyddol hwn, a'i holl swyn. Mae'r caffi ar agor ar ddydd Mercher a dydd Iau, rhwng 10am a 4pm. Galwch heibio, felly, a mwynhau croeso cynnes Cymreig gan y gwirfoddolwyr – rydyn ni'n siŵr y byddan nhw'n rhoi cipolwg i chi ar dreftadaeth a hanes yr ardal. Mae croeso i grwpiau, ac mae modd darparu te prynhawn a chawl cartref ar gyfer grwpiau drwy gysylltu â staff y caffi ymlaen llaw.