Mae Coffi Kava yn siop goffi arbenigol a phopty crefftwrol, sy’n gweini byrbrydau a chacennau traddodiadol o Brydain a Wcráin yn ogystal â choffi arbenigol o ansawdd uchel gan Coaltown Roastery.
Gan gymryd ei enw o’r geiriau Cymraeg a Wcreineg am “goffi,” mae Coffi Kava hefyd yn cynnig cacennau, teisennau a brechdanau i’w harchebu.
Wedi’i leoli ar y platfform yng ngorsaf drenau Caerffili, mae Coffi Kava yn lle gwych i gael tamaid i’w fwyta a rhywbeth i’w yfed wrth deithio ac mae’n groeso perffaith wrth gyrraedd Caerffili.
Dilynwch Coffi Kava ar Facebook ac Instagram i wybod yr holl gynhyrchion diweddaraf sydd ar gael.
Oriau Agor
- Dydd Llun i ddydd Gwener: 7.00am–4.00pm
- Dydd Sadwrn: 8.00am–4.30pm
- Dydd Sul: Ar gau