

Wedi’i leoli yng nghanol Coed Duon ac yn gyfagos i Gyfnewidfa Gorsaf Fysiau Coed Duon a Lôn Grafel, mae Lle’r Farchnad yn gartref i dros 20 o unedau, gan gynnwys cymysgedd o frandiau cenedlaethol a siopau annibynnol, asiantaethau teithio, caffis a darparwyr gwasanaethau. Gyda maes parcio talu ac arddangos cyfleus drws nesaf, dyma’r lle perffaith ar gyfer siopa un-stop hawdd.
Mae sgwâr Lle’r Farchnad yn cynnal marchnadoedd awyr agored ar ddydd Mawrth, dydd Gwener a dydd Sadwrn, gyda stondinau yn cynnwys Andy’s Rugs, Tim Short Family Butchers, Best Bite Biscuits, St Mellons Nurseries Flowers and Plants a Williams Fruit and Veg. Mae Lle’r Farchnad hefyd yn cynnal Ffair a Marchnad Crafty Legs misol, sy’n cael ei chynnal ar y pedwerydd dydd Sadwrn o bob mis.
Mae sgwâr Lle’r Farchnad hefyd ar gael i’w logi; am ragor o wybodaeth am logi’r sgwâr, cysylltwch â Rheolwr Lle’r Farchnad, Adam Oldham, yn adam@crawshawbaileyholdings.co.uk.