Morbitorium – Amgueddfa a Siop

  5 Gelli-Unig Place, Pontywaun, Caerphilly, NP11 7GG
  01495 273298   curator@morbitorium.co.uk   Ewch i'r wefan

Y Morbitorium yw’r lle perffaith i chi os oes gennych chi ddiddordeb mewn pethau rhyfedd ac anarferol. Mae’n gymysgedd diddorol o amgueddfa a thŷ bwgan gyda siop anrhegion arswydus; nid oes unman arall fel hyn!

Mae’r bwthyn o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar ochr y gamlas yn gartref i’r amgueddfa dewiniaeth a rhyfeddau; casgliad preifat sydd wedi cymryd degawdau lawer i’w casglu ac sy’n cynnwys arteffactau rhyfeddol o bob cwr o’r byd, fel doliau arswydus, offer lobotomi hynafol, cathod wedi’u mymïo a wal gyfan o fyrddau Ouija sydd wedi’u hanfon i’r amgueddfa gan bobl sydd â gormod o ofn eu defnyddio nhw eto! Mae casgliad mawr o sbesimenau gwlyb yn disgleirio’n ysgafn o gornel yr ystafell ac yn bwrw golau arswydus dros y ddol Annabelle a’r cit hela fampirod. Mewn gwirionedd, mae cymaint i’w weld fel y gallai gymryd sawl ymweliad cyn i chi weld popeth.

Gall y siop gyflenwi’ch holl anghenion dewiniaeth, ynghyd ag anrhegion hwyliog i chi neu’ch ffrindiau. Mae gan yr apothecari amrywiaeth eang o berlysiau hudol, ac mae canhwyllau swyno, arogldarth a chardiau tarot mewn stoc bob amser. Os ydych chi newydd ddechrau archwilio dewiniaeth, gall y Morbitorium roi cyngor ar lawer o bynciau, felly peidiwch â bod ofn gofyn! Nid oes y fath beth â chwestiwn rhyfedd yma a gallwn ni eich sicrhau chi bod cwestiynau mwy od wedi cael eu clywed.

Yn ogystal â’r oriau agor arferol, mae’r Morbitorium hefyd yn cynnal digwyddiadau y tu allan i oriau arferol, gan gynnwys gweithdai dewiniaeth a nosweithiau séance/goruwchnaturiol. Mae’r Morbitorium yn gweithio gyda rhai o’r grwpiau ac ymarferwyr lleol gorau i gyflwyno gweithdai a phrofiadau hwyliog a fydd yn eich denu chi dro ar ôl tro. Dysgwch ragor am baganiaeth a dewiniaeth, neu archwilio’r amgueddfa ar ôl iddi nosi i weld y casgliad o benglogau dynol ac i geisio cyfathrebu â’r ysbrydion sy’n byw yma. Os ydych chi’n berson mwy ymarferol, yna ymunwch â’r Morbitorium am ddiwrnod o grefftau (ar thema dewiniaeth, wrth gwrs!) i greu eich poteli amddiffyn eich hun, doliau pyped, ysgolion gwrachod ac offer dewiniaeth eraill i chi fynd â nhw adref.

Mae rhagor o wybodaeth ar y wefan…

  • Siop: Mynediad am ddim
  • Amgueddfa: Oedolion £2.50/Dan 16 oed am ddim

Gwybodaeth bellach

Cyswllt

Dave Roberts

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad