Mae Parc Cwm Darran yn barc gwledig tawel, hardd sydd wedi ennill Gwobr y Faner Werdd. Wrth weld y fath harddwch mae’n anodd credu mai hwn ar un adeg oedd safle hen Lofa Ogilvie. Mae’r rhan fwyaf o olion y bywyd blaenorol hwn wedi diflannu, ond mae ambell beth ar ôl i’n hatgoffa ni ohono. Mae ein canolfan ymwelwyr yn lle da i ddechrau, ac mae’n cynnwys llawer o wybodaeth i’ch helpu chi i gael y budd mwyaf o’ch ymweliad. Mae Llyn Ogilvie yng ngwaelod y cwm yn hardd iawn, ac mae llwybr hygyrch o’i gwmpas, neu gallwch chi grwydro dan gysgod y coed sy’n dringo ochrau’r cwm.
Gallwch chi ddarganfod dolydd blodau gwyllt hyfryd yng Ngwarchodfa Natur Leol Dolydd Cwmllydrew, edmygu Amffitheatr y Baedd Gwyllt neu bysgota yn y llyn. Mae digon o bethau i gadw’r plant yn brysur yn ein cae chwarae a chwrs rhwystrau “Gemau Olympaidd Ogilvie”.
Ar ôl yr holl ymarfer corff, beth am gael egwyl fach yn Siop Goffi Lakeside a mwynhau paned o de a theisen flasus wedi’i gwneud gartref. Gallech chi hefyd ddefnyddio un o’n byrddau picnic niferus neu eistedd ar y glaswellt i fwynhau’r olygfa.
Beth i’w Weld a’i Wneud
Y ganolfan ymwelwyr
Y lle gorau i gychwyn a gorffen eich ymweliad â Pharc Cwm Darran yw’r Ganolfan Ymwelwyr. Galwch heibio pan fyddwch chi’n cyrraedd i gael cyngor gwych ynglŷn â sut i wneud y mwyaf o’ch ymweliad. Yna, pan fyddwch wedi cael digon o archwilio, dewch yn ôl i gael rhywbeth i’w fwyta a’i yfed a gweld yr hyn rydych wedi ei fethu. Gallwch chi ddod yn ôl rywbryd eto!
Amffitheatr y baedd gwyllt
Yn ffodus iawn, does yna ddim baedd gwyllt go iawn yma i’n dychryn, dim ond cerflun 35 metr wedi’i wneud o bridd a man perfformio awyr agored 250 sedd. Mae’r amffitheatr, a ddyluniwyd gan yr artist, Mick Petts, yn dathlu un o’r Llengoedd Rhufeinig a oedd wedi meddiannu’r cwm ac a oedd yn hela baeddod gwyllt yn y coetir derw lleol. Edrychwch ar ei ysgithrau arswydus neu dewch i un o’n digwyddiadau sy’n defnyddio’r man unigryw hwn.
Bywyd gwyllt
Fel llawer o gyn safleoedd diwydiannol mae glaswelltiroedd, coetir a llyn Parc Cwm Darran yn llawn bywyd gwyllt. Mae Gwarchodfa Natur Leol Dolydd Cwmllydrew yn enghraifft fach o orffennol amaethyddol blaenorol fferm Cwmllydrew sydd bellach wedi’i chwalu.
Teithiau a llwybrau cerdded
Mae dilyn llwybrau cerdded ag arwyddion yn ffordd dda o ddechrau archwilio’r parc a’r ardal leol.
Taith Gerdded Iach (1 cilomedr) – Taith gerdded hamddenol o amgylch Llyn Ogilvie ar lwybrau tarmac â graddiant ysgafn.
Mae yna hefyd amywiaeth eang o lwybrau sy’n plethu trwy’r parc er mwyn i chi allu archwilio’r cwm.
Ac yna…
Ymwelwch â’r storfa bowdr â’i siâp od a oedd yn cael ei defnyddio i gadw’r ffrwydron ar gyfer y lofa yn ddiogel. Cerddwch dros y bont droed bren Gradd II, pont unigryw wedi’i diogelu sy’n cysylltu Bailey Street â Bristol Terrace dros hen linell y rheilffordd yn Arhosfa Ogilvie. Dewch o hyd i’n gweithiau celf eraill neu gymryd rhan yn “Gemau Olympaidd Ogilvie”.
Cynllunio eich ymweliad
Lleoliad: Mae Parc Cwm Darran yng Nghwm Darran yn agos at bentref Deri. CF81 9NR
Sut i gyrraedd:
- Mewn car – Dilynwch yr arwyddion brown i dwristiaid o’r A469 ym Margod neu Bontlotyn. Mae’r brif fynedfa ychydig i’r gogledd o bentref Deri.
- Ar fws – Gwasanaeth 1 Bargod i Ferthyr. Ar feic – Mae Llwybr 469 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn mynd trwy’r parc.
- Yr orsaf drenau agosaf – Bargod.
Oriau’r parc: Mae’r parc ar agor trwy’r dydd ac nid oes tâl mynediad.
Meysydd parcio: Mae’r prif faes parcio a’r meysydd parcio wrth gefn ger y Ganolfan Ymwelwyr. Mae modd cyrraedd maes parcio’r pysgotwyr ym mhen deheuol Llyn Ogilvie trwy Bargoed Terrace ym mhentref Deri.
Pwyntiau mynediad eraill: Mae Llwybr 469 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn mynd i’r parc yn y pen gogleddol a’r pen deheuol. Mae pwyntiau mynediad eraill ym mhentref Deri yn Bargoed Terrace a Bristol Terrace.
Y ganolfan ymwelwyr: Ar agor bob diwrnod ond yn cau am gyfnod byr dros wyliau’r Nadolig. Mae’n rhannu’r un oriau agor â’r caffi sydd ar agor trwy’r flwyddyn rhwng 10am a 4.30pm, gan ddibynnu ar y tywydd.
Caffi: Mae’r caffi’n cael ei redeg fel menter breifat ers rhai blynyddoedd bellach, ac oherwydd hynny mae’n gallu bod ar agor trwy’r flwyddyn rhwng 10am a 4.30pm, gan ddibynnu ar y tywydd.
Toiledau: Mae toiledau ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr ac mae eu horiau agor yn debyg i rai’r Ganolfan Ymwelwyr. Ar agor bob diwrnod rhwng 8am a 4pm (gaeaf) a 5pm (haf).
Byrddau picnic: Mae’r rhain ar gael y tu allan i’r Ganolfan Ymwelwyr, wrth faes parcio’r pysgotwyr, ger y Gerddi Coffa ac mewn nifer o leoliadau o gwmpas y llyn.
Hygyrchedd: Mae mannau parcio dynodedig ar gyfer pobl anabl yn y prif faes parcio ac ym maes parcio’r pysgotwyr. Mae gan y Ganolfan Ymwelwyr doiledau wedi’u haddasu a lifft, ac mae toiled wedi’i addasu â drws allanol ar gael bob amser drwy allwedd radar. Efallai y bydd ymwelwyr sydd ag anawsterau symud yn teimlo bod parcio yn y maes parcio wrth gefn yn fwy cyfleus ar gyfer y Ganolfan Ymwelwyr a defnyddio’r fynedfa uchel i’r adeilad. Mae’r prif lwybr o amgylch y llyn yn llwybr tarmac. Mae’n wastad at ei gilydd ond â graddiant ysgafn i’r Ganolfan Ymwelwyr ac yn ôl. Mae’r llwybr beicio hefyd yn llwybr tarmac ond mae’r llwybrau eraill yn gyfuniad o lwch cerrig ac arwyneb naturiol. Mae’r pwyntiau rheoli mynediad ar y llwybr beicio yn addas ar gyfer sgwteri symudedd ac mae llawer o feinciau ar gael i orffwys.