Pwll Pen-y-Fan

  Yn ymyl i Ystad Ddiwydiannol Pen-y-Fan, Oakdale NP11 4EG

Mae enw’r corff dŵr rhyfeddol hwn ychydig yn gamarweiniol gan nad yw’n bwll o gwbl mewn gwirionedd. Mae Pwll Pen-y-Fan yn un o’r cronfeydd dŵr olaf yng Nghymru sy’n dal i fwydo camlesi. Wedi’i hadeiladu tua 1794, ei phwrpas oedd cyflenwi dŵr i gangen Crymlyn o Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu gerllaw. Nawr, mae’r gyrchfan boblogaidd hon i deuluoedd yn ystod yr haf yn cynnig mannau diogel, gwastad ac agored i chi gael picnic, hedfan barcud, cicio pêl neu fynd am dro hamddenol.

Yn heneb ddiwydiannol hanesyddol a gwarchodedig, mae’r pwll dŵr wedi’i amgylchynu gan gaeau a choed ar dair ochr. Efallai nad yw’r man gwyrdd hwn yn fawr iawn, ond mae’n parhau i fod yn boblogaidd i’n cymunedau lleol.


Yr hyn sydd i’w weld a’i wneud

Ymlacio

Mae dŵr bob amser yn denu; mae dŵr hefyd yn tawelu’r meddwl ac yn eich helpu chi i ymlacio. Does dim byd yn well na mwynhau taith gerdded fer o amgylch y pwll, cael picnic gyda’r teulu, neu dreulio amser yn eistedd ar un o’r meinciau a gwylio’r byd.

Teithiau a llwybrau cerdded

Os hoffech chi wybod pa mor bell yr ydych chi’n cerdded, yna mae un cylchdro o amgylch y pwll dŵr ar hyd y prif lwybr tua 1,275 metr. Felly, byddai cerdded dwywaith ar hyd y llwybr gwastad, hygyrch hwn, sydd ag arwyneb da, yn gwneud taith gerdded iachus o 1.5 milltir.

Gweithgareddau ar y dŵr

Mae amrywiaeth o weithgareddau dŵr ar gael ym Mhwll Pen-y-Fan, ond byddwch yn ymwybodol bod y rhain i gyd yn destun rhyw fath o gyfyngiad neu amodau.

Pysgota: Mae tocynnau dydd ar gael ar gyfer y bysgodfa brithyll sy’n cael ei rheoli gan Glwb Pysgota Islwyn a’r Cylch. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein tudalen Pysgota.

Canŵio a rhwyf-fyrddio ar eich traed: Mae’r gweithgareddau hyn ar gael i grwpiau wedi’u trefnu yn unig, felly’n anffodus nid oes mynediad at ddefnydd achlysurol na phersonol. I drefnu a bwcio sesiwn cysylltwch â Grŵp Antur Caerffili.

Ni chaniateir nofio ym Mhwll Pen-y-Fan oherwydd tymheredd oer iawn y dŵr trwy gydol y flwyddyn a’r peryglon tanddwr sy’n bresennol. Ni chaniateir unrhyw weithgareddau dŵr eraill ar hyn o bryd.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf cafwyd achosion o algâu gwyrddlas yn y pwll; dilynwch unrhyw hysbysiadau canllaw sy’n cael eu cyhoeddi, ac rydyn ni’n cynghori’n gryf y dylech chi gadw anifeiliaid anwes allan o’r dŵr bob amser.


Cynllunio eich ymweliad

Lleoliad: Mae Pwll Pen-y-Fan wedi’i leoli i’r gogledd o Ystad Ddiwydiannol Pen-y-Fan; mae arwyddion wedi’u gosod o Oakdale ar y B4251. NP11 4EG

Sut i gyrraedd:

  • Mewn car – Mae yna arwyddion ar gyfer y brif fynedfa oddi ar y B4251 yn Oakdale.
  • Ar fws – Gwasanaethau cyfyngedig gan 5A a 13 o Goed Duon.

Oriau’r parc: Mae’r parc yn agored trwy gydol y flwyddyn. Mae mynediad i’r parc am ddim hefyd.

Meysydd parcio: Mae dau faes parcio ar gael trwy’r brif fynedfa oddi ar Parkway.

Pwyntiau mynediad eraill: Mae mynediad i gerddwyr ar gael oddi ar Parkway, Manmoel Road ac ar hyd llwybrau troed cyhoeddus i’r gogledd o’r pwll dŵr.

Toiledau: Mae toiledau wedi’u lleoli wrth y ciosg ac maen nhw ar agor bob dydd o fis Ebrill i fis Medi rhwng 10am a 5pm. Maen nhw ar gau trwy gydol misoedd y gaeaf.

Ciosg: Mae ciosg bach sy’n gwerthu amrywiaeth o luniaeth ar agor bron bob dydd trwy gydol misoedd yr haf.

Byrddau picnic: Mae sawl bwrdd picnic wedi’u lleoli o amgylch yr ardaloedd glaswellt gwastad rhwng y ciosg a’r Maes Parcio Uchaf.

Hygyrchedd: Mae lleoedd parcio i bobl anabl ar gael yn y ddau faes parcio. Mae toiled anabl ar wahân yn defnyddio clo RADAR felly bydd deiliaid allweddi yn gallu cael mynediad i’r toiled hwn ar unrhyw adeg o fis Ebrill i fis Medi. Mae’r pwll dŵr wedi’i amgylchynu gan lwybr tarmac gwastad, ynghyd â sawl mainc, gan gynnig mynediad hawdd o amgylch y dŵr. Mae’r llwybrau i’r meysydd parcio hefyd wedi’u tarmacio, er bod llethr fer yn arwain at y Maes Parcio Uchaf.


Gwybodaeth gyswllt

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â cefngwlad@caerffili.gov.uk.

Gwybodaeth bellach

Lleoliad