Rock UK – The Summit Centre

  Summit Centre, The Old Drift Mine, Trelewis, Treharris CF46 6RD
  01443 710090   summit@rockuk.org   Ewch i'r wefan

Wedi’i bleidleisio fel Gweithgaredd neu Brofiad Gorau Croeso Cymru yn 2025, mae’r ganolfan antur hon yn lle perffaith ar gyfer diwrnodau allan i’r teulu. Gyda dros 20 o weithgareddau antur dan arweiniad, caffi trawiadol ac ardal chwarae awyr agored, canolfan ddringo a llety, mae’r Summit Centre yn gyrchfan y mae’n rhaid ymweld â hi!

Gweithgareddau

O sesiynau blasu i ddechreuwyr i sesiynau hyfforddiant profiadol, mae gan Summit Centre amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer pawb o bob gallu. Mae’r holl gyfarpar yn cael ei ddarparu a does dim angen profiad. Mae modd trefnu sesiynau ar-lein yn summitcentre.wales neu drwy ffonio 01443 710090. Mae modd i’r ganolfan ddarparu ar gyfer teuluoedd, unigolion a grwpiau mawr. Mae angen cadw lle ymlaen llaw.

Dyma rai o’r gweithgareddau sydd ar gael:

  • Cwrs rhaffau uchel
  • Saethyddiaeth
  • Byw yn y gwyllt
  • Ogofa
  • Dringo

Llety

Yn dilyn prosiect ailddatblygu gwerth £4 miliwn, gall Summit Centre bellach gynnig llety en-suite newydd sbon ar gyfer hyd at 104 o westeion, neuadd fwyta ar gyfer pob pryd bwyd, ystafelloedd cyfarfod a chynadledda, maes chwaraeon a gardd breifat i ymlacio ynddi. Mae modd i’r llety fod ar ffurf un adeilad mawr neu wedi’i rannu’n dair uned hunangynhwysol. Mae llety math tŷ bynciau ar gael yn ystod y penwythnos a gwyliau ysgol.

Bellach, gall Summit Centre gynnig:

  • Llety en-suite a phob pryd bwyd i 104 o westeion
  • Ystafelloedd cyfarfod i grwpiau/clybiau/mudiadau
  • Caffi ac ardal chwarae awyr agored
  • Dros 20 o weithgareddau â hyfforddwr
  • Campfa a Chanolfan Ffitrwydd
  • Gradd 4* Croeso Cymru

Oriau Agor

Dydd Mawrth-dydd Iau: 10am–9pm

Dydd Gwener-dydd Sadwrn: 10am–5pm

Gwybodaeth bellach

Cyswllt

Rachel Allen

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad