Croeso i Serenity Spa & Treatments
Dewch i ddarganfod noddfa les bum seren bennaf Caerffili a dianc rhag gofynion bywyd pob dydd. Ymgollwch yn nhriniaethau sba nodweddiadol Serenity, sydd â’r bwriad i’ch gwneud i chi deimlo’n ogoneddus, wedi adfer ac wedi ymlacio’n llwyr.
Pecynnau nodweddiadol:
- Pecyn sba deimwnt dull Corea – 2.5 awr am £125 yn unig
Mynnwch loywder perffaith drwy gael triniaeth croen gwydrol i’r wyneb yn null Corea, sef o driniaethau nodweddiadol Serenity, wedi’i pharu’n hyfryd â thyliniad llonyddol i’r corff cyfan.
- Pecyn sba saffir – 2.5 awr am £115 yn unig
Dyma’r dull maldodi pennaf, sy’n cyfuno triniaeth foethus arbenigol i’r wyneb a thriniaeth newid gwedd draddodiadol yn null y Dwyrain â thyliniad braf i’r corff cyfan.
- Pecyn sba platinwm – 2 awr am £95 yn unig
Toddwch unrhyw densiwn drwy gael triniaeth foethus adfywiol i’r wyneb ac yna dyliniad ymlaciol i’r corff cyfan, i’ch adfywio eich hun yn llwyr.
Triniaethau arbenigol eraill:
- Pecyn sba aur – Encil lles cynhwysfawr, premiwm.
- Triniaeth foethus i’r wyneb a newid gwedd yn null y Dwyrain – Hylunio naturiol ac adfywio’r croen.
- Triniaeth foethus i’r wyneb a stêm glanhau dwfn – Puro mandyllau yn ddwys a hydradu.
- Tyliniad ymlaciol pennaf i’r corff cyfan — Rhyddhau tensiwn yn llwyr o’r pen i’r traed.
Dechreuwch eich taith i ymlacio
Barod am brofiad braf?
I weld y manylion llawn am driniaethau, cael gwybod pryd mae sesiynau ar gael a sicrhau lle ar-lein heddiw, ewch i www.serenityspaandtreatments.com.