Taff Valley Activity Centre

  Cwrt-Y-Celyn Farm, Upperboat, Pontypridd CF37 5BJ
  029 2083 1658   info@taffvalley.co.uk   Ewch i'r wefan

Gwybodaeth bellach

Cyswllt

Carlyn Treloar

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad

Mae Canolfan Gweithgareddau Cwm Taf yn ganolfan weithgareddau teuluol wedi’i lleoli ar fferm weithredol yn Ne Cymru, gyda dros 30 mlynedd o brofiad o ddarparu gweithgareddau antur. Ar y fferm, gallwch chi fwynhau beicio cwad, saethyddiaeth, saethu colomennod clai, taflu bwyeill a chwrs rhwystrau yn arddull y fyddin, sy’n hwyliog, gwlyb a mwdlyd iawn. Gallwn ni hefyd drefnu cerdded ceunentydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn ogystal â gweithgareddau adeiladu tîm, cyrsiau preswyl i bobl ifanc a phecynnau diwrnodau i ffwrdd corfforaethol. Mae gan y ganolfan rywbeth at ddant pawb; teuluoedd, cyplau, penblwyddi, diwrnodau tîm corfforaethol, penwythnosau plu/i’r dynion, timau chwaraeon, ysgolion, colegau. Rhaid bod yn 7 mlwydd oed neu’n hŷn i gymryd rhan. Mae’r ganolfan wedi’i leoli ar gyrion Caerffili, ger ffordd ddeuol yr A470 a phriffordd yr M4, dim ond 7 milltir i ffwrdd o Gaerdydd, ac mae’n hawdd ei gyrraedd o Dde Cymru. Mae gweithgareddau ar gael trwy gydol y flwyddyn (dim ond ar gau ar Ddydd Nadolig) ac maen nhw’n wych ar gyfer gweithgareddau’r gaeaf gan fod rhai dan do ac eraill yn gallu digwydd yn y tywydd garw Cymreig arferol beth bynnag! Mae caffi awyr agored bach ar y fferm y mae modd trefnu gweithgareddau ynddo, neu dafarndai lleol braf gerllaw. Gall y ganolfan helpu hefyd gyda llety, trafnidiaeth a gweithgareddau eraill yn yr ardal.