Mae’r Church Inn yn dafarn a bwyty sylweddol, wedi’i hadeiladu o gerrig, ar gyrion pentref Bedwellte, Coed Duon. A hithau’n sefyll ym mhrydferthwch cefn gwlad, mae’n lle delfrydol i fwynhau bwyd o ansawdd uchel, mewn lleoliad hyfryd. Mae’r dafarn hanesyddol hon, sy’n dyddio’n ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg, yn cynnwys llawer o nodweddion gwreiddiol ac mae hi newydd gael ei hailwampio i greu lle mwy modern. Mae’n gweini prydau tafarn traddodiadol gyda gwahaniaeth modern.