
Bwyd tafarn gwych a diodydd croyw, oer sydd wrth galon eich tafarn leol.
P’un a ydych chi’n galw heibio am ginio ysgafn, gwledd ar ôl ysgol gyda’r plant, neu bryd o fwyd blasus gyda’r hwyr gyda’r teulu.
Beth am selsig a thatws stwnsh, penfras a sglodion, neu un o’r byrgyrs enfawr – fel ‘XL Cluck & Moo’? Nygets cyw iâr i’r plant a stêc gamon i Mam-gu? Heb anghofio’r ‘Mega Meals’ i’r rhai y mae chwant bwyd arnyn nhw, a’r dewis eang o bwdinau ar gyfer y rhai sy’n hoff o bethau melys. Mae gan y Green Lady rywbeth at ddant pawb!
Ar ben eich pryd o fwyd, mynnwch beint traddodiadol, gwydraid o win neu goctel bach – mae’r ddiod berffaith ar gael i gyd-fynd â phob pryd o fwyd.
Dewch draw, felly, am fwyd, diodydd a chroeso calonnog.