Ty Coppi Adventures and Alpacas

  Ty Coppi Farm, Twyn Gwyn Road, Newport, NP11 7AY
  07527 042067   tycoppiadventures@gmail.com   Ewch i'r wefan

Mewn lleoliad delfrydol ym mhrydferthwch Cwm Sirhywi, ar dyddyn diarffordd, mae’r cwmni antur teuluol hwn yn arbenigo mewn dringo creigiau, teithio trwy geunentydd, cerdded ceunentydd, teithiau e-feicio a phrofiadau gydag alpacas. Mae Tŷ Coppi Adventures and Alpacas yn cynnig gweithgareddau pwrpasol o ansawdd uchel i weddu i bob gallu, ynghyd â chynigion arbennig sy’n cynnwys dewis aros mewn llety hunanarlwyo 4*. Mae’n cynnal gweithgareddau ledled de Cymru – o ddrws ffrynt y fferm i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae profiad ar gael at ddant pawb… gan gynnwys partïon i’r dynion a gwyliau i’r teulu.

Gwybodaeth bellach

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad