Glampio Dan y Dderwen

  The Barn, Pen y Waun Farm, Mountain Rd, Bedwas, Caerphilly CF83 8ER

Dewch i aros yn Under the Oak a chael profiad bythgofiadwy. Mae dewis o lety moethus ar ffurf pebyll saffari cynfas, caban a cherbydau trên. Mentrwch i fyd natur, heb roi’r gorau i’r cysuron corfforol!

Mae Under the Oak yn cynnig caban moethus, pebyll eang a dau gerbyd trên clyd. Mae pob un yn cynnwys twba twym sy’n rhedeg ar dân coed, pwll tân ar gyfer coginio yn yr awyr agored, llosgwr coed, cegin fach gyflawn, ac ystafell ymolchi gyda chawod boeth.

Mae’r gwelyau cyfforddus a chlyd wedi’u paratoi cyn ichi gyrraedd, felly y gallwch ddadbacio ac ymlacio.

Mae Richard a Lydia yn edrych ymlaen at eich croesawu i’w fferm, ac yn barod i’ch rhoi ar ben ffordd pa un a ydych eisiau cerdded, beicio neu deithio ymhellach.

Am ragor o wybodaeth ac i drefnu eich gwyliau, ewch i wefan Under the Oak.


Dan y Dderwen

Dan y Dderwen – Dyma’r babell saffari wreiddiol yn Under the Oak, ar lan y pwll. Mae Under the Oak wedi cadw popeth roedd pobl yn ei garu amdani hi, a chreu caban pwrpasol, syfrdanol. Golygfeydd panoramig syfrdanol, a llawer o le ar y tu mewn a’r tu allan – dyma’r lefel nesaf ym myd glampio!

Mae Dan y Dderwen yn cynnig lle i bum person, ynghyd ag un plentyn – mae gwely bocs maint brenin, bync triphlyg yn yr ystafell wely, a gwely plentyn bach yn y cwtsh. Dyma nodweddion y caban hwn…

  • Ystafell ymolchi fewnol, gyda chawod boeth, basn ymolchi, a thoiled sy’n fflysio
  • Cegin, gydag oergell fach, a hob gyda dau gylch nwy
  • Llosgwr coed clyd yn yr ardal fyw
  • Un gwely maint brenin, un gwely dwbl, un gwely sengl, a gwely bach
  • Feranda dan do, fawr, gyda seddi
  • Tywelion a dillad gwely
  • Pwll tân awyr agored, gyda gridyll ar gyfer coginio
  • Sach o goed tân i chi gael dechrau arni
  • Matsis, ffaglau tân a phriciau tân
  • Platiau, sosbenni, cyllyll a ffyrc, llestri, ac offer barbeciw
  • Pethau ymolchi moethus, nwyddau glanhau, papur toiled, a chanhwyllau bach
  • Dewis o lyfrau a gemau
  • Ardal eistedd a bwyta awyr agored
  • Cegin fwd a phwll tywod
  • Man parcio o fewn taith gerdded fer i’r caban

Y Ddraenen Wen

Y Ddraenen Wen – Dyma babell â dyluniad unigol, syfrdanol mewn man perffaith ar lan y dŵr. Mae golygfeydd anhygoel i bob cyfeiriad, a’ch twba twym preifat eich hun sy’n rhedeg ar dân coed. Y babell hon yw’r lle perffaith i orffwys ac ymlacio.

Mae’r Ddraenen Wen yn cynnig lle i bedwar person, ynghyd ag un plentyn ychwanegol – mae gwely bocs maint brenin, gwely dydd dwbl yn yr ardal fyw, a gwely plentyn bach yn y cwtsh. Dyma nodweddion y babell hon…

  • Ystafell ymolchi fewnol, gyda chawod boeth, basn ymolchi, a thoiled sy’n fflysio
  • Cegin, gydag oergell fach, a hob gyda dau gylch nwy
  • Llosgwr coed clyd yn yr ardal fyw
  • Feranda dan do, fawr, gyda seddi
  • Tywelion a dillad gwely
  • Pwll tân awyr agored, gyda gridyll ar gyfer coginio
  • Sach o goed tân i chi gael dechrau arni
  • Matsis, ffaglau tân a phriciau tân
  • Platiau, sosbenni, cyllyll a ffyrc, llestri, ac offer barbeciw
  • Pethau ymolchi moethus, nwyddau glanhau, papur toiled, a chanhwyllau bach
  • Dewis o lyfrau a gemau
  • Ardal eistedd a bwyta awyr agored
  • Cegin fwd a phwll tywod
  • Man parcio o fewn taith gerdded fer i’r babell

Dan y Ffawydden

Dan y Ffawydden – Mae’n sefyll mewn man i ffwrdd o’r pwll, gydag ardal awyr agored breifat, fawr ar gyfer chwarae neu ymlacio. Mae golygfa syfrdanol ar draws y cwm ac i Fôr Hafren yn y pellter. Mae gan y babell hon ei thwba twym preifat ei hun sy’n rhedeg ar dân coed.

Mae Dan y Ffawydden yn cynnig lle i hyd at chwe pherson – mae gwely bocs maint brenin, gwely maint brenin mewn ystafell ar wahân, a gwely bync mewn ystafell wely arall. Dyma’r nodweddion eraill…

  • Ystafell ymolchi fewnol, gyda chawod boeth, basn ymolchi, a thoiled sy’n fflysio
  • Cegin, gydag oergell, rhewgell fach a hob gyda dau gylch nwy
  • Llosgwr coed clyd yn yr ardal fyw
  • Feranda dan do, fawr, gyda seddi
  • Tywelion a dillad gwely
  • Pwll tân awyr agored, gyda gridyll ar gyfer coginio
  • Sach o goed tân i chi gael dechrau arni
  • Matsis, ffaglau tân a phriciau tân
  • Platiau, sosbenni, cyllyll a ffyrc, llestri, ac offer barbeciw
  • Pethau ymolchi moethus, nwyddau glanhau, papur toiled, a chanhwyllau bach
  • Dewis o lyfrau a gemau
  • Ardal eistedd a bwyta awyr agored
  • Cegin fwd a phwll tywod
  • Man awyr agored cwbl gaeëdig
  • Man parcio o fewn taith gerdded fer i’r babell

Cynefin

Cynefin – Dyma gerbyd trên nwyddau a gafodd ei brynu gan Under the Oak a’i adnewyddu i greu lle gwyliau trawiadol, clyd perffaith. Mae’n sefyll o dan dderwen mewn cornel o’r fferm, gyda’r cymysgedd perffaith o heddwch, tawelwch a phreifatrwydd. Hefyd, mae twba twym pren wedi’i orchuddio, i alluogi mwynhau’r golygfeydd anhygoel wrth ymlacio!

Mae Cynefin yn cynnig lle i ddau berson, mewn gwely dwbl. Dyma’r nodweddion eraill…

  • Ystafell ymolchi fewnol, gyda chawod boeth, basn ymolchi, a thoiled sy’n fflysio
  • Cegin, gydag oergell fach a hob gyda dau gylch nwy
  • Llosgwr coed clyd yn yr ardal fyw
  • Tywelion a dillad gwely
  • Pwll tân awyr agored, gyda gridyll ar gyfer coginio
  • Sach o goed tân i chi gael dechrau arni
  • Matsis, ffaglau tân a phriciau tân
  • Platiau, sosbenni, cyllyll a ffyrc, llestri, ac offer barbeciw
  • Pethau ymolchi moethus, nwyddau glanhau, papur toiled, a chanhwyllau bach
  • Dewis o lyfrau a gemau
  • Ardal eistedd a bwyta awyr agored
  • Man awyr agored cwbl gaeëdig
  • Man parcio o fewn taith gerdded fer

Cartref

Cartref – Dyma gerbyd trên nwyddau wedi’i adfer, pwrpasol. Bydd yn bendant yn teimlo’n gartrefol. Mae’r tu mewn wedi’i ddylunio’n unigol, sy’n berffaith ar gyfer gwyliau clyd. Tu allan, mae’r golygfeydd yn berffaith. Mae’r twba twym, sy’n rhedeg ar dân coed, wedi’i orchuddio – felly, gallwch chi ei fwynhau beth bynnag fo’r tywydd.

Mae Cartref yn cynnig lle i ddau berson, mewn gwely dwbl. Dyma’r nodweddion eraill…

  • Ystafell ymolchi fewnol, gyda chawod boeth, basn ymolchi, a thoiled sy’n fflysio
  • Cegin, gydag oergell fach a hob gyda dau gylch nwy
  • Llosgwr coed clyd yn yr ardal fyw
  • Tywelion a dillad gwely
  • Pwll tân awyr agored, gyda gridyll ar gyfer coginio
  • Sach o goed tân i chi gael dechrau arni
  • Matsis, ffaglau tân a phriciau tân
  • Platiau, sosbenni, cyllyll a ffyrc, llestri, ac offer barbeciw
  • Pethau ymolchi moethus, nwyddau glanhau, papur toiled, a chanhwyllau bach
  • Dewis o lyfrau a gemau
  • Ardal eistedd a bwyta awyr agored
  • Man parcio o fewn taith gerdded fer

Gwybodaeth bellach

Cyswllt

Lydia Watts

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad