Yn VR Experience Wales, maen nhw’n defnyddio systemau realiti rhithwir ar ffurf penset rhithwir o’r radd flaenaf i gynhyrchu delweddau, synau a synhwyrau eraill realistig sy’n efelychu presenoldeb corfforol defnyddiwr mewn amgylchedd rhithwir.
Hefyd, mae modd i rywun sy’n defnyddio offer realiti rhithwir edrych o amgylch y byd rhithwir, symud o gwmpas a rhyngweithio gyda nodweddion neu eitemau rhithwir.
Mae opsiynau ar gyfer chwaraewyr unigol a grŵp ar gael (gan ddibynnu ar y profiad a ddewiswyd), felly gallwch chi naill ai ymgolli ym myd eich hun neu herio’ch hun a’ch ffrindiau mewn modd yn erbyn eich gilydd neu mewn tîm. Profwch eich hun a’ch ffrindiau neu gysylltu â chwaraewyr realiti rhithwir brwdfrydig ledled y byd a’u profi nhw.
Ymgymerwch â’r her heddiw… Gyda realiti rhithwir, does dim terfyn!