Cerdded yng Nghoedwig Cwmcarn
Mae rhai o deithiau cerdded gorau Cymru gyfan yng Nghoedwig Cwmcarn. Gallwch ddewis Taith Gerdded Nantcarn ar hyd y llyn, neu Daith Gerdded 1807 sy’n fwy egnïol, yn 9 milltir o hyd, ac yn cynnwys nodweddion hanesyddol, coetiroedd trawiadol a golygfeydd gwych.
Pum taith gerdded wych yng Nghoedwig Cwmcarn
Mae teithiau cerdded sy’n addas i bob gallu, gan gynnwys taith llai na milltir i daith naw milltir. Mae pob un yn cynnig gwahanol olygfeydd a thirwedd sy’n cynnwys harddwch Coedwig Cwmcarn, y llyn eang a llawr y cwm. Yn ystod y gwahanol dymhorau y daw fflora a ffawna gwahanol; mwynhewch Daith Gerdded Clychau’r Gog ym mis Mai pan fydd clychau’r gog yn eu blodau, neu yn yr hydref pan fydd y dail yn newid ac yn cynnig golygfeydd a lliwiau cyferbyniol.
Mae pob un o’n teithiau cerdded wedi’u rhestru isod, a bydd cyfarwyddiadau ar gael i’w lawrlwytho cyn bo hir.
Her Archwiliwr Bywyd Gwyllt Cwmcarn
Mynnwch fod yn archwiliwr bywyd gwyllt trwy ddilyn y map archwiliwr er mwyn dod o hyd i 21 o byst arbennig ar hyd y daith gerdded gylchol fer o 1.2 milltir. Galwch heibio i’r Ganolfan Ymwelwyr i brynu eich pecyn Archwilio (gan gynnwys creonau) a mynd ati i archwilio. Dewch o hyd i’r plac metel cudd ar bob postyn, a’i baru â’r llun cywir yn y llyfryn Archwiliwr. Gwnewch rwbiad o’r plac yn eich llyfryn a symud ymlaen i ddod o hyd i’r postyn nesaf! Ar ôl ei gwblhau, gellir prynu tystysgrif Archwiliwr Bywyd Gwyllt o dderbynfa’r ganolfan ymwelwyr. Hapus yn archwilio!
Mae llyfrynnau ar gael o dderbynfa’r ganolfan ymwelwyr am £1.50, rhwng 9am a 5pm bob dydd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Coedwig Cwmcarn.