Ymunwch â Theatr Fach Coed Duon ar gyfer The Ladykillers – dydd Gwener 28 a dydd Sadwrn 29 Mehefin!
Comedi du clasurol yw The Ladykillers; mae hen wraig fach annwyl, ar ei phen ei hun yn ei thŷ, yn wynebu criw o fisffitiaid troseddol penderfynol. Gan ddynwared cerddorion amatur, mae’r Athro Marcus a’i gang yn rhentu ystafelloedd yn nhŷ anwastad Mrs Wilberforce, sy’n wraig annwyl ond llym. Mae’r dihirod yn cynllwynio i’w chynnwys hi, yn ddiarwybod, yn lladrad gwych Marcus. Mae’r heddlu mewn dryswch, ond mae Mrs Wilberforce yn dod yn ymwybodol o’u castiau ac mae Marcus yn dod i’r casgliad mai dim ond un ffordd sydd i gadw’r hen wraig yn dawel. Gyda dim ond ei pharot, General Gordon, i’w helpu hi, mae Mrs Wilberforce ar ei phen ei hun gyda phum dyn anobeithiol. Ond pwy fydd yn cael ei orfodi i wynebu’r canlyniadau?
Yn addas i’r rhai sy’n 12 oed a hŷn. Yn cynnwys themâu ysgafn i oedolion.
Yn para 120 munud gyda thoriad 20 munud.
Tocynnau £12*
Mae’n bosibl cadw lle i grwpiau o 10 neu ragor, anfonwch e-bost i blackwoodtheatre@googlemail.com
*Gall tocynnau disgownt i Aelodau a chynigion Cyw Cynnar neu unrhyw gynigion eraill fod yn gymwys.