Tour de France Grand Départ 2027
Ddydd Sul 4 Gorffennaf 2027, bydd Cymal 3 o’r Tour de France 2027 yn cychwyn o’r Trallwng, gan fynd trwy drefi Llandrindod, LlanfairymMuallt ac Aberhonddu.
Yna, bydd yn dringo drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, cyn cyfres gyffrous o ddringfeydd a disgynfeydd ar draws y De yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon, Merthyr Tudful a Chaerffili. Yn y Cymoedd, bydd y peloton yn mynd i’r afael â dringfeydd enwog fel y Côte de Rhigos a’r Côte de Caerffili, ac yna’n gorffen yng Nghaerdydd.
Dyma fydd cymal olaf y Grand Départ, a chlo addas i ddathliad beicio yma ym Mhrydain. Dyma hefyd fydd un o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf erioed i’w cynnal yng Nghymru sy’n rhad ac am ddim i’r gwylwyr.
Tour de France y dynion yw digwyddiad chwaraeon blynyddol mwyaf y byd gyda dros 120 mlynedd o hanes, yn cynnwys y timau a’r beicwyr proffesiynol gorau, ac mae wedi ymweld â Phrydain bedair gwaith.
Cafodd y Tour de France Femmes avec Zwift ei lansio yn 2022 a dyma ras feicio broffesiynol fwyaf y byd i fenywod. Bydd yn ymweld â Phrydain am y tro cyntaf ac, fel ras y dynion, mae’n gwbl rhad ac am ddim i’r gwylwyr.
Mae Grands Départs ar y cyd y Deyrnas Unedig yn nodi moment pwysig i fyd beicio, gyda Tours y dynion a’r menywod yn cael eu harddangos ar un o lwyfannau chwaraeon gorau’r byd. Mae disgwyl miliynau o wylwyr, felly, dyma fydd y digwyddiad chwaraeon rhad ac am ddim mwyaf yn hanes y Deyrnas Unedig.
Map o lwybr Cymal 3, o'r Trallwng i Gaerdydd
Ewch ati i archwilio’r llwybr a chynllunio eich antur beicio eich hun.
Cwestiynau cyffredin
Pryd mae’n digwydd?
Bydd Prydain yn cynnal chwe chymal rasio fel rhan o Grand Départ 2027. Yn gyntaf, ym mis Gorffennaf, bydd tri chymal o Tour de France y dynion rhwng dydd Gwener 2 Gorffennaf a dydd Sul 4 Gorffennaf yn y lleoliadau canlynol:
- Dydd Gwener 2 Gorffennaf, o Gaeredin i Gaerliwelydd
- Dydd Sadwrn 3 Gorffennaf, o Keswick i Lerpwl
- Dydd Sul 4 Gorffennaf, o’r Trallwng i Gaerdydd
Beth alla i ei ddisgwyl?
Achlysur lliwgar, anhygoel wrth i ddigwyddiad chwaraeon blynyddol mwyaf y byd ddod i Brydain am y pumed tro yn unig. Achlysur sy’n cymysgu cynnwrf cyflym a chwaraeon o’r radd flaenaf, ag awyrgylch sy’n gyfeillgar i deuluoedd ac yn rhad ac am ddim i’w wylio.
Bydd y Tour de France yn cael ei ragflaenu gan y garafán gyhoeddusrwydd enwog. Am ddwy awr, mae’r Tour de France a’i bartneriaid yn cynnal sioe, gan ddosbarthu llawer o anrhegion, a synnu, plesio a diddanu’r selogion sy’n aros i’r beicwyr fynd heibio!
Oes angen tocyn i’w wylio?
Nac oes. Mae’r Tour de France yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, sy’n golygu y gallwch chi fwynhau achlysur lliwgar o feicwyr proffesiynol gorau’r byd yn rasio trwy eich cymuned yn rhad ac am ddim.
Beth yw’r amseroedd ar gyfer y ras?
Mae union amseroedd y ras i’w cwblhau a’u cyhoeddi, ond, fel arfer, bydd pob cymal yn dechrau tua amser cinio (11am–2pm) ac yn gorffen tua 4–5pm, yn dibynnu ar hyd y cymal.
Yn agosach at y ras, bydd union amser dechrau ac amser gorffen bras ar gyfer pob cymal yn cael eu cyhoeddi a’u rhestru ar amserlen fanwl pob dydd, a fydd yn darparu amseroedd cyrraedd, yn ôl amcangyfrif, ar hyd pob llwybr ar gyfer y ras a’r garafán gyhoeddusrwydd a fydd yn rhagflaenu pob cymal.
A fydd ffyrdd ar gau?
Bydd angen cau ffyrdd yn llwyr ar gyfer y Tour de France.
Mae hyn yn golygu y bydd angen cau ffyrdd ar hyd pob un o’r cymalau. Bydd gwyriadau a mesurau rheoli traffig dros dro eraill yn cael eu rhoi ar waith i ddarparu llwybrau amgen i ddefnyddwyr y ffyrdd.
Bydd manylion llawn am gau ffyrdd, y ffyrdd dan sylw ac amseroedd cau ffyrdd yn cael eu cyhoeddi yn letourgb.com yn ystod ail hanner 2026, a’u trosglwyddo i drigolion a busnesau ar hyd y llwybrau.
Yn ogystal, bydd angen cau ffyrdd eraill yn yr ardaloedd cyfagos i bob man cychwyn a gorffen, oherwydd maint y digwyddiad a’r isadeiledd sydd ei angen. Bydd y trefniadau cau ffyrdd hyn yn cael eu cwblhau ymhell cyn i’r ras gael ei chynnal ac yn cael eu cyhoeddi’n lleol, gan gynnwys am ba mor hir y bydd y ffyrdd ar gau.
Pam bydd ffyrdd ar gau?
Er mwyn cynnal digwyddiad chwaraeon o’r radd flaenaf yn ddiogel, mae’n rhaid i ni ddiogelu’r llwybr a chlirio’r holl gerbydau wedi’u parcio. Mae hyn yn diogelu’r beicwyr a’r gwylwyr, a bydd yn cynnwys cau ffyrdd a chyfyngu ar barcio yn yr ardaloedd dan sylw.
Mae angen cau ffyrdd i baratoi llwybr y ras a gosod offer, fel gantri’r man gorffen, rhwystrau amddiffynnol, lleoli stiwardiaid a marsialiaid gwirfoddol ar hyd y llwybr, a chaniatáu gwneud mân waith priffyrdd – y cyfan yn hanfodol er mwyn cynnal y ras. Mae cau ffyrdd yn hwyluso’r digwyddiad ac yn caniatáu i filiynau o wylwyr fwynhau’r ras yn ddiogel ar ymyl y ffordd.
Bydd cau ffyrdd yn caniatáu i’r garafán gyhoeddusrwydd, sy’n diddanu selogion cyn y ddwy ras, a’r ras fynd heibio, ac yna i isadeiledd y ras gael ei symud ac i’r gwylwyr wasgaru’n ddiogel unwaith i’r ras fynd heibio.
A fydd effaith ar fusnesau lleol a/neu bobl sy’n gweithio yn lleoliadau’r mannau cychwyn neu orffen?
Oherwydd maint y Tour de France a’r nifer fawr o wylwyr, bydd angen cau ffyrdd yn lleoliad pob man cychwyn a gorffen. Ar y cyd â’r awdurdodau lleol partner, byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i sicrhau y gall busnesau lleol barhau i fasnachu fel arfer a manteisio ar y diddordeb yn y ras a phresenoldeb gwylwyr yn eu lleoliadau priodol.
Byddwn ni, ynghyd ag awdurdodau lleol, yn cysylltu maes o law i drafod trefniadau ym mhob lleoliad i helpu busnesau i gynllunio ar gyfer y digwyddiad, ar ffurf gwybodaeth a sesiynau galw heibio.
Mae gen i gwestiwn sydd heb gael ei ateb – â phwy ddylwn i gysylltu?
Mae cynllunio ar gyfer y Grands Départs yn mynd rhagddo, rydyn ni’n deall efallai na fydd gennym ni ateb i bob cwestiwn ar hyn o bryd. Byddwn ni’n rhoi’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol yn barhaus, felly, edrychwch yn rheolaidd i gael gwybod y diweddaraf.
Os oes gennych chi gwestiwn am y Grands Départs sydd heb gael ei ateb yma, cysylltwch â ni drwy
Rhaglen wirfoddoli – byddwch yn Joy Maker!
Manteision gwirfoddoli
P’un a ydych chi’n 16 oed neu’n 60 oed, yn byw yng Nghaerliwelydd neu Gaerdydd (neu unrhyw le arall ar hyd ein chwe chymal), yn selogyn beicio neu’n newydd-ddyfodiad i’r Tour, rydyn ni eisiau i chi fod yn rhan o ddigwyddiad chwaraeon unigryw.
- Ymrwymiad bach i fod yn rhan o ddigwyddiad mawr – mae un sifft yn unig helpu cadw’r Tour i symud!
- Pecyn swyddogol JOY Maker Grand Départ Grande-Bretagne 2027 i’w wisgo gyda balchder
- Gwneud cysylltiadau a chwrdd â phobl newydd o’ch ardal ac o bell
- Helpu eich cymuned leol i ddisgleirio i filiynau o wylwyr o bedwar ban byd
- Hyfforddiant a datblygu sgiliau, gan gynnwys cyfle i bobl 16–25 oed ymuno â’n rhaglen Parodrwydd i Weithio.
