Croeso Caerffili yn yr Awyr Agored

Wrth i’r cyfyngiadau symud ymlacio yng Nghymru, ble fyddwch chi’n ymweld?

Mae gennym ni atyniadau awyr agored gwych yma ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, â phob un yn falch o groesawu ymwelwyr yn ôl.

Mae -The Meadows – Encilfa Pentref Fferm yn cynnig gwasanaeth cadw lle ymlaen llaw ar gyfer ymweliad 3 awr i’r fferm, sy’n cynnwys taith, sy’n werth chweil, lle byddwch chi’n dysgu popeth am darddiad yr anifeiliaid, eu personoliaethau, a hefyd byddwch chi’n cael bwydo rhai ohonyn nhw!

Mwynhewch ymweliad dwy awr i’r teulu cyfan yn Mountain View Ranch ar fynydd Caerffili, archwilio Llwybr Cerdded y Gryffalo, cwrdd â’r anifeiliaid a dod o hyd i goedwig y tylwyth teg. Gellir cadw lle er mwyn ymweld hyd at 5 diwrnod ymlaen llaw.

Beth am fynd allan a thaflu eich hun i mewn i antur awyr agored go iawn. Mae Canolfan Gweithgareddau a Beicio Cwad Cwm Taf, Glan-bad, ger Caerffili, bellach ar agor ac yn cadw lle ar gyfer beicio cwad, cwrs ymosod awyr agored a saethyddiaeth ynghyd â nifer o weithgareddau eraill a gallan nhw ddarparu cinio. Edrychwch ar eu gwefan am ragor o wybodaeth ac i gadw lle.

Mae Canolfan Farchogaeth Rockwood ar fynydd Caerffili bellach ar agor ar gyfer gwersi preifat a theithiau ceffylau hur ar draws y cefn gwlad hardd. Mae angen i farchogion fod yn lefel 2 ac yn uwch. Cysylltwch yn uniongyrchol i gadw lle ymlaen llaw.

Cerdded neu feicio i rywle newydd:
Mae’r byd i gyd o’ch blaenau, beth am drio llwybr newydd ar eich taith gerdded neu feicio nesaf? Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn cynnig llwybrau sydd ag arwyddion clir ac sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n dda ac mae gan Fwrdeistref Sirol Caerffili sawl un i ddewis ohonyn nhw.

Llwybr Beicio Cwm Aber – Llwybr 475
Gan ddechrau yng Nghaerffili, mae’r llwybr hwn yn mynd a chi i gaeau gwyrdd tawel a choetiroedd gyda safleoedd bywyd gwyllt gwarchodedig.

Llwybr Celtaidd i’r Dwyrain – Llwybr 4
Mae’r Llwybr Celtaidd yn rhedeg ledled Cymru, ac mae rhan ohono’n rhedeg trwy Gaerffili ac yn cynnwys llwybrau o amgylch Castell Caerffili gyda golygfeydd anhygoel o’r castell a’r ffos. O’r castell, mae’r llwybr yn mynd â chi trwy Fedwas, Machen a chyrion Casnewydd.

Llwybr y Tri Pharc
Gan ddechrau o Barc Gwledig Cwm Sirhywi ger Crosskeys, mae’r llwybr yn mynd â chi dros draphont restredig drawiadol Hengoed sydd â 16 bwa. Yna, mae’n parhau trwy’r cwm ac yn mynd heibio Parc Penallta, sydd wedi’i gerfio o hen bwll glo. O’r Arsyllfa Uchel gallwch fwynhau golygfeydd ysblennydd ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili. Sicrhewch eich bod yn cadw llygad allan am Sultan y Merlyn Pwll Glo, un o gerfluniau daear ffigurol mwyaf y Deyrnas Unedig.

Coedwig Cwmcarn

Gall ymwelwyr nawr fwynhau’r llwybrau cerdded o amgylch llawr a llyn y dyffryn. Mae llwybrau beicio mynydd ar agor i reidio ac mae’r meysydd parcio ar agor. Mae Raven’s Cafe ar agor bob dydd ar gyfer tecawê ynghyd â’r siop anrhegion, y dderbynfa a’r toiledau. Daliwch i edrych ar y wefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf a’r amseroedd agor. Gwefan Coedwig Cwmcarn