Diweddariad Atyniadau Ymwelwyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Dyma ddiweddariad ar gyfleusterau ac oriau agor Coedwig Cwmcarn, COFFI VISTA a Maenordy Llancaiach Fawr

I gael yr wybodaeth a’r canllawiau cyfyngiadau symud lleol diweddaraf, ewch i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:
Coronafeirws – cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf

Mae Coedwig Cwmcarn ar agor bob dydd rhwng 9am a 5pm (yn cau am 4.30pm ddydd Gwener). Bydd y siop anrhegion a’r dderbynfa ar agor, ynghyd â’r toiledau, yn ystod y cyfnod hwn. Mae gwasanaeth tecawê o Gaffi’r Gigfran ar agor ddydd Llun i ddydd Sul, 9.30am i 4pm (archebion bwyd rhwng 10am a 3.30pm). Gall cwsmeriaid brynu bwyd a diod, a’u mwynhau yn yr ardal eistedd awyr agored y tu ôl i’r ganolfan. Gweld y fwydlen yma

Bydd system cadw pellter o 2m ar waith wrth giwio ac archebu. Bydd ciwio yn digwydd y tu allan i’r adeilad lle bydd system unffordd ar waith o amgylch y ganolfan. Bydd cwsmeriaid yn derbyn rhifau archeb. Pan fydd yr archeb yn barod, bydd y rhif yn cael ei alw a gall cwsmeriaid casglu eu bwyd o’r man casglu.

Mae Coedwig Cwmcarn wedi ailagor rhai o’i chyfleusterau awyr agored, gan gynnwys llwybrau cerdded a beicio, maes parcio (am ddim hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2020), llwybrau beicio mynydd gan gynnwys llwybrau disgynnol (nid yw’r gwasanaeth ymgodi ar gael ar hyn o bryd).
Am ragor o wybodaeth am y cyfleusterau sydd ar agor ar hyn o bryd yng Nghoedwig Cwmcarn, ewch i’r wefan.
Mae mesurau cadw pellter cymdeithasol ynghyd â gofynion Tracio ac Olrhain ar waith.

 

 

 

Cafodd COFFI VISTA ei adnewyddu’n sylweddol yn ystod mis Chwefror a Mawrth ac nid oes cyfle wedi bod i’w weld eto!

Gall cwsmeriaid nawr weld y cownter gweini newydd a’r adnewyddiadau wrth

archebu bwyd a diod. Mae byrddau a chadeiriau ar gael y tu allan ar y balconi a’r teras.

Bydd yr ardal eistedd dan do yn ailagor yn fuan unwaith y bydd darpariaethau cadw pellter

cymdeithasol ar waith. yr oriau agor yw ddydd Llun – dydd Sul, 10am – 5pm. Gweld y fwydlen yma

 

 

Ail-agorodd Maenordy Llancaiach Fawr ei siop anrhegion a chaffi ym mis Gorffennaf, ac mae bellach ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn, 10am – 3.30pm.
Mae cinio dydd Sul bellach ar gael i’w archebu yn y Bwyty Gwydr, a gafodd ei hailwampio yn ddiweddar, ynghyd â chinio dydd Sul tecawê sydd ar gael i’w archebu ymlaen llaw. Cadwch fwrdd, neu archebu bwyd ymlaen llaw drwy ffonio 01443 412248.
Gweld y fwydlen cinio dydd Sul yma

Mae te prynhawn ar gael yn y caffi. Cadwch fwrdd ymlaen llaw trwy ffonio 01443 412248. Gweld y fwydlen te prynhawn yma
Gweld bwydlen y caffi yma
Mae’n well talu â cherdyn ac mae mesurau cadw pellter cymdeithasol a gofynion Tracio ac Olrhain ar waith.