Y Tŷ Weindio yn Nhredegar Newydd yw’r amgueddfa i Fwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’n cynnwys arddangosfeydd diddorol a deniadol, y peiriant weindio Fictoraidd hynod, rhaglen o weithgareddau cyffrous a’r “dishgled orau o goffi yn y Cymoedd” (yn ôl rhai ymwelwyr rheolaidd). Ac ar ben hynny, mae mynediad AM DDIM!
Dewch i chwilota a darganfod yn ein harddangosfeydd rhyngweithiol deniadol! Mae Galeri’r Gorllewin yn edrych ar hanes y Fwrdeistref Sirol. Mae Galeri’r Dwyrain yn cynnwys ein rhaglen o arddangosfeydd sy’n newid.
Mae gennym ddigwyddiadau hwyliog a diddorol o bob math i holl aelodau’r teulu, trwy gydol y flwyddyn! O weithgareddau crefftau hanesyddol i sgyrsiau a theithiau ar hyd y galerïau, mae digonedd yma i bawb ei fwynhau!
Cewch ddysgu am hanes cudd Bwrdeistref Sirol Caerffili yng Ngaleri’r Gorllewin – o’r Rhufeiniad i chwyldroadau, o gestyll i Frenhinwyr, o’r Oes Haearn i’r Gweithfeydd Haearn – mae digonedd i’w weld, i’w wneud ac i’w ddysgu!
Wedi’i adeiladu ar safle hen Bwll Elliot, canolbwynt yr amgueddfa yw’r peiriant weindio Fictoraidd gwreiddiol, sy’n rhedeg ar ddiwrnodau penodol drwy gydol y flwyddyn. Cewch ddarganfod mwy am hanes cloddio am lo yn yr ardal yn nehongliad newydd y peiriandy.
Hefyd, cewch ddarganfod sut y gallwch chwilota ymysg casgliad yr amgueddfa o wrthrychau, dogfennau a ffotograffau i gynorthwyo â’ch ymchwil i hanes lleol a hanes teuluol, yn ein Canolfan Ymchwil Treftadaeth.
Beth am gymryd hoe yn ein siop goffi gydag ychydig o de, coffi a chacennau blasus, a dod o hyd i gofrodd arbennig ymysg y detholiad helaeth o deganau traddodiadol, crefftau o ansawdd da, gemwaith a llyfrau sydd ar gael yn y siop anrhegion?