Ymweliad Emma i gabanau moethus newydd Coedwig Cwmcarn

Mae Emma, sy’n brofiadol wrth flogio, yn ymweld â Choedwig Cwmcarn i brofi gwyliau dros nos mewn un o’r cabanau moethus newydd sbon. Mae Emma yn rhoi cynnig ar y brecwast calonnog yng Nghaffi’r Gigfran yn y Ganolfan Ymwelwyr ac yn mynd am dro ar un o lwybrau cerdded Cwmcarn – Llwybr Clychau’r Gog. Mae’r cabanau â dodrefn hyfryd ac mae lle i rhwng 2 a 6 person i gysgu. Mae pob un wedi’u lleoli er mwyn gallu gwerthfawrogi’r golygfeydd sydd o’u hamgylch. Gyda chegin, ystafell ymolchi llawn, gwely dwbl, teledu, gwres canolog a decin allanol, mae’r cabanau hyn yn cynnig profiad dianc-rhag-y-cyfan go iawn, er eu bod dim ond 20 munud i ffwrdd o gyffordd 28 o’r M4. Un o ganolfannau antur awyr agored gorau De Cymru yw Coedwig

challenge)! Watch Emma’s blog… Cwmcarn gyda llwybrau cerdded, chwaraeon dŵr a llwybrau beicio mynydd (ar gyfer beicwyr profiadol sy’n mwynhau heriau)!

Gwyliwch blog Emma…

 

Essential information