Estyniad moethus £1.9 miliwn yn agor yng Ngwesty hanesyddol Neuadd Llechwen

Datblygiad adain gyfoes â 24 ystafell i westeion gyda chyfleusterau hamdden yw cam cyntaf yr uwchraddiad 4 seren i’r gwesty premiwm a’r lleoliad priodas syfrdanol yng nghymoedd De Cymru.

Datblygiad adain gyfoes â 24 ystafell i westeion gyda chyfleusterau hamdden yw cam cyntaf yr uwchraddiad 4 seren i’r gwesty premiwm a’r lleoliad priodas syfrdanol yng nghymoedd De Cymru.

Mae perchnogion Gwesty Neuadd Llechwen wedi datgelu ac agor adain newydd o’r gwesty yn swyddogol, gan ddod â chyfanswm yr ystafelloedd gwesteion i 44.

Gweinyddwyd yr agoriad gan y Cynghorydd Julian Simmonds, Maer Bwrdeistref Sirol Caerffili, a Mrs Karen Simmonds, y Faeres, mewn seremoni carped coch a thorri rhuban traddodiadol. Yn bresennol roedd aelodau o Gymdeithas Twristiaeth Caerffili, Rhaglen Datblygu Gwledig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Croeso Cymru, y cyfryngau lleol, buddsoddwyr preifat a nifer fawr o dîm y gwesty.

Cafodd gwesteion daith dywys o amgylch yr adain ddeulawr newydd gan weld detholiad o’r ystafelloedd gwely 4 seren sy’n cynnwys system dymheru, balconïau Juliette, dodrefn steilus a gwelyau ‘memory foam’, ystafelloedd ymolchi helaeth gyda chawodydd glaw, deunyddiau a chelfwaith Cymreig wedi’u gwneud â llaw, socedi USB a chysylltiad WiFi diderfyn. Daeth y daith i ben gyda derbyniad siampên a chanapés ym mar lolfa newydd yr adain, gyda drysau deublyg â golygfa yn agor i deras heddychlon, caeëdig wedi’i wneud allan o lechen Gymreig.

Fel rhan o’r estyniad, bydd sba, ystafelloedd triniaeth, a champfa ar agor i westeion yn gynnar yn 2020. Bydd yr adeilad gwreiddiol a’r 20 ystafell westeion yn cael eu hadnewyddu ymhellach i gyrraedd safon 4 seren, tra bydd y lolfa cyfnod yn cael ei hailfodelu’n gyfoes ond yn sympathetig, gyda’r dderbynfa bresennol yn cael ei symud i greu cyswllt uniongyrchol i’r adain newydd.

Cefnogwyd datblygiad Neuadd Llechwen gan fuddsoddiad o £409,000 gan y Gronfa Busnesau Micro a Bychan, trwy Raglen Datblygu Gwledig 2014–2020 Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Ynghyd â buddsoddiad preifat, mae’r rhaglen ddatblygu werth cyfanswm o £1.9 miliwn.

Mae Neuadd Llechwen, sy’n fusnes teuluol, wedi derbyn buddsoddiad parhaus ers ei phrynu yn 2008, a thrwy hynny sicrhau lle i’r gwesty fel encilfa a chyrchfan o safon yng nghefn gwlad gogoneddus Cymru.

Essential information

Website
Social Media
Facebook
CTA Member