Sylwer: gall yr holl wybodaeth newid.
Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol i gael diweddariadau rheolaidd!
I wneud cais am ofod masnach yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau eleni, llenwch y ffurflen gais ar-lein.
Am ymholiadau cyffredinol am ddigwyddiadau, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Ffair y Gaeaf yng Nghaerffili yw’r lle perffaith i chi deimlo ysbryd y Nadolig. Profwch olygfeydd, seiniau ac arogleuon y dref a’r castell wrth baratoi ar gyfer y Nadolig, gyda bwyd stryd blasus, arogl gwin brwd, theatr stryd gyffrous a dros 60 o stondinau bwyd, crefft a rhoddion, gan gynnwys atyniadau ffair i ddiddanu’r holl deulu!
Wrth ymweld â Farchnad Nadolig Caerffili, cofiwch fynd i’r Farchnad Ffermwyr boblogaidd yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn, Ffair Grefftau Crafty Legs wrth y Senotaff, a Marchnad Crefft a Bwyd Cwrt y Castell yng Nghanolfan Siopa Cwrt y Castell. Mae’r holl farchnadoedd hyn yn ategu Farchnad Nadolig Caerffili, a’r cymysgedd o siopau annibynnol a siopau’r stryd fawr sydd yn y dref.
Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM! Mae ffioedd mynediad arferol yn berthnasol i’r castell.
Am ragor o wybodaeth, neu e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Oes diddordeb gennych chi mewn cael stondin yn y digwyddiad hwn? Cysylltwch â digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Mae Cyngor Tref Caerffili yn cynorthwyo’r digwyddiad hwn.
Parcio a Thrafnidiaeth
Ragor o wybodaeth yn dod yn fuan.
Rhaglen Adloniant
Ragor o wybodaeth yn dod yn fuan.
Rhestr Stondinau
Ragor o wybodaeth yn dod yn fuan.