Mae Noson Elusen Churchill’s Fish Bar bron yma, dewch draw am noson anhygoel llawn hwyl, chwerthin a chodi arian!
Dewch draw am noson wych sy’n cynnwys y canlynol…
• Cerddoriaeth fyw gan Chris O’Brien
• Bingo
• Raffl anhygoel
• Bwyd gwych
• Digon o hwyl!
Y cyfan i gefnogi pedair elusen anhygoel…
• Elusen Ysbyty Plant Arch Noa
• Young Lives vs Cancer
• Apêl Bws Mini PAL Fitness
• Elusen Canser OPA
Mae tocynnau yn £5 yn unig, gyda phob ceiniog sy’n cael ei godi yn mynd yn uniongyrchol at yr achosion anhygoel hyn!
Os nad ydych chi wedi prynu tocyn eto, mae dal amser! Galwch heibio i’r siop yn 109 Commercial Street, Rhisga, Haven on the Hill, neu anfon neges i Churchill’s Fish Bar i gadw eich lle.
Dewch i ni godi cymaint o arian â phosibl a gwneud hon yn noson i’w chofio!
Methu dod? Gallwch chi brynu tocynnau raffl o hyd, peidiwch â cholli’ch cyfle i ennill gwobrau gwych am £1 y tocyn yn unig!
- Golff yn Celtic Manor
- Talebau triniaethau harddwch
- Taleb tatŵ
- Talebau Churchill’s Fish Bar
- Poteli o siampên
- A llawer mwy!
Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis yn ystod y noson elusen ar 11 Gorffennaf.
Mae pob tocyn rydych chi’n ei brynu yn helpu cynorthwyo plant, teuluoedd a phobl yn ein cymunedau lleol sy’n cael eu heffeithio gan ganser.
Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi rhoi gwobrau, prynu tocynnau ac sy’n parhau i gefnogi’r gwaith codi arian. Byddai’n amhosibl hebddoch chi!
Dewch i ni sicrhau mai eleni yw’r flwyddyn orau eto!