Psychic Sally

23 Hydref 2026
  Neuadd Goffa Trecelyn, Y Stryd Fawr, Trecelyn NP11 4FH

Archebwch eich tocynnau yma!

Mae’r seicig mwyaf poblogaidd yn y wlad yn ôl ar daith! Mae Sally wedi bod yn syfrdanu cynulleidfaoedd theatr – hen ac ifanc – ledled y byd ers dros 12 mlynedd. Bydd ei sioe yn eich cadw ar bigau’r drain wrth iddi barhau i ddod â’r grefft o gyfathrebu â’r byd ysbryd i’r unfed ganrif ar hugain. P’un a ydych chi’n ei hadnabod o’i chyfres deledu boblogaidd, drwy ei gwylio ar *Celebrity Big Brother* neu drwy ddarllen un o’i llyfrau sy’n gwerthu orau, does dim byd tebyg i weld Sally yn fyw ar y llwyfan.

Mae Sally yn egluro: “Mae fy nhaith wedi dod yn ffordd o fyw i mi; wrth i mi heneiddio, mae fy ngalluoedd fel cyfryngwr ysbrydion yn gryfach nag erioed. Felly, mae gallu trosglwyddo negeseuon i gynulleidfaoedd ledled y wlad yn fraint enfawr, yn ogystal â bod yn bleser. Rwy’n galw pob neges sy’n cael ei chadarnhau yn ‘eiliad ryfeddol’. Felly cymerwch eich seddi, ymlaciwch, cadwch feddwl agored a byddwch yn barod i ddod ymlaen os ydych chi’n meddwl bod y neges ar eich cyfer chi.”

Gyda chariad, chwerthin a chynhesrwydd Sally, mae’r sioe hon yn noson unigryw na ddylid ei cholli. Archebwch eich tocynnau nawr i weld y seicig rhyfeddol hwn ar waith.

Mae’r sioe yn un archwiliadol ac at ddibenion adloniant.

Perfformiad yn yr Awditoriwm

Bar ar agor o – 6pm

Drysau ar agor – 6.30pm

Dechrau’r sioe – 7.30pm

£25 fesul tocyn safonol*

*Mae ffioedd archebu yn berthnasol i bryniannau ar-lein yn unig

Nid oes ffi archebu ar gyfer archebion dros y ffôn nac yn bersonol yn Neuadd Goffa Trecelyn.

Digwyddiadau yn Neuadd Goffa Trecelyn