Mae ‘Death on Demand Murder Mysteries’ yn gwmni adloniant swynol arobryn sydd wedi’i leoli ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, sy’n darparu profiadau ‘pwy yw’r llofrydd’ proffesiynol ar gyfer grwpiau preifat, busnesau, gwestai, bwytai a lleoliadau ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig.
Mae profiad ‘pwy yw’r llofrydd’ traddodiadol ‘Death on Demand’ yn dod â chast o actorion proffesiynol yn uniongyrchol i leoliad o’ch dewis, lle mae gwesteion yn chwarae rôl y ditectifs. Gan weithio mewn timau, maen nhw’n gofyn cwestiynau i’r rhai dan amheuaeth, yn datgelu cliwiau, yn cymharu damcaniaethau ac yn ceisio penderfynu pwy yw’r llofrydd cyn y datgeliad terfynol. Yn wahanol i rai profiadau ‘pwy yw’r llofrydd’ pan fo gwesteion yn cael eu neilltuo i chwarae cymeriadau, cast proffesiynol ‘Death on Demand’ sy’n gwneud yr holl actio, gan ganiatáu i’r gwesteion ganolbwyntio ar fwynhau’r ymchwilio.
Mae ‘Death on Demand’ hefyd yn cynnig profiadau ‘pwy yw’r llofrydd’ byrrach ar gyfer grwpiau preifat o hyd at 10 o bobl, penwythnosau ‘pwy yw’r llofrydd’ swynol a phrofiad penwythnos arddull sioe ‘The Traitors’ o’r enw ‘Trust No One’. Mae modd trefnu profiadau ar gyfer dathliadau preifat, gweithgareddau adeiladu tîm corfforaethol, digwyddiadau staff, adloniant i gleientiaid a digwyddiadau cyhoeddus wedi’u cynnal gan westai a lleoliadau eraill.
Ac yntau wedi’i sefydlu ac yn cael ei redeg gan y Cyfarwyddwr Artistig, Clare Cluer, mae ‘Death on Demand’ wedi datblygu i ddarparu mwy na 100 o ddigwyddiadau bob blwyddyn, gyda chymorth tîm mawr o actorion llawrydd proffesiynol. Mae ‘Death on Demand’ yn arbennig o falch o fod wedi’i leoli yn ardal Caerffili wrth ddod â’u profiadau i gynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt.
Fe wnaeth cwmni ‘Death on Demand’ gael ei enwi’n Gwmni Digwyddiadau Dirgelwch Gorau’r Deyrnas Unedig yng Ngwobrau SME Business Elite Awards 2024, cyrraedd rhestr fer categori Creadigol Great British Entrepreneur Awards yn 2023 a 2024, cael ei gydnabod ymhlith 100 busnes hanfodol Zokit 2025. Fe wnaeth ‘Death on Demand’ hefyd gael gwobr Canmoliaeth Uchel – Priodasau a Digwyddiadau yng Ngwobrau Twf Busnes De a Chanolbarth Cymru. Mae ‘Death on Demand’ hefyd wedi gweithio yn flaenorol fel cyflenwr swyddogol ar gyfer Cadw.
Mae’r profiadau ar gael drwy gydol y flwyddyn wrth eu trefnu nhw ymlaen llaw. Gan fod ‘Death on Demand’ yn dod â’r adloniant i’w cleientiaid a’u lleoliadau partner, nid ydyn nhw’n gweithredu oriau agor cyhoeddus sefydlog. Mae digwyddiadau sydd ar gael i’r cyhoedd mewn lleoliadau partner yn cael eu hysbysebu ar wahân drwy gydol y flwyddyn.