Wild About Canicross

22 Tachwedd 2026
  Ffos Caerffili, Park Lane, Caerffili CF83 1FN
  029 2264 2446   sales@ultimatepetfoods.co.uk   Ewch i'r wefan

Wedi breuddwydio erioed am redeg gyda’ch ci? Ymunwch â sesiwn ‘Canicross i Ddechreuwyr’ gan Ultimate Pet Foods – digwyddiad hamddenol ac anffurfiol, wedi’i greu ar gyfer cŵn a’u perchnogion sydd heb roi cynnig arno o’r blaen.

Beth yw Canicross?
Rhedeg gyda’ch ci, tra’ch bod wedi’ch cysylltu â’ch gilydd gan ddefnyddio offer arbenigol. Mae’n ffordd wych o ymarfer ac yn llawer o hwyl – ac nid oes angen i chi fod yn rhedwr profiadol!

Ar y diwrnod

  • Dewch i gwrdd â thîm Wild Trail Wellness a dysgu’r pethau sylfaenol
    Bydd eich ci yn cael offer Canicross gan DogFit wedi’i osod arno’n gywir
  • Mwynhewch rediad prawf 15 munud yng nghylchdiroedd Castell Caerffili
  • Dewch yn ôl am sgwrs, cyfle i ofyn cwestiynau, a gwybodaeth am y camau nesaf

Does dim angen offer na phrofiad blaenorol. Dewch â’ch ci yn unig!

Darperir yr offer gan DogFit.

Gofynnir i chi gofrestru er mwyn i ni gael syniad o nifer y bobl sy’n dod; fodd bynnag, mae croeso i chi hefyd ymddangos ar y diwrnod.
tedai.ultimatepetfoods.co.uk/ffos