Morbitorium – Amgueddfa a sio

Celfi i’r chwilfrydig, rhyfeddwch i’r rhyfedd

Mae’r Morbitorium yn amgueddfa hen ffasiwn ar ffurf cwpwrdd hynodion, lle rydyn ni wedi casglu rhai o’r eitemau mwyaf rhyfedd ar draws y byd. Yr unig faen prawf? Rhaid i bopeth fod yn od neu’n arswydus!

Ac yntau’n sefyll ym mhentref tawel Pont-y-waun, mae’r bwthyn hwn o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth ochr camlas Sir Fynwy ac ychydig funudau ar droed o Ffordd Goedwig Cwmcarn, ond hyd yn oed cyn i chi fynd i mewn byddwch chi’n cael blas ar yr hyn sydd y tu mewn. Yn sefyll wrth ymyl y fynedfa mae cerflun sgerbwd 8 troedfedd o daldra o’r enw Mort, ac mae pedolau rhydlyd uwchben y drws i gadw ysbrydion drwg draw.

Pan fyddwch chi yn y tŷ byddwch chi’n dod o hyd i’r casgliad mwyaf rhyfeddol ac amrywiol o hynodion. Mae arddangosfeydd sy’n cynnwys llên gwerin, henbethau meddygol, penglogau, wica a dewiniaeth, tacsidermi a’r goruwchnaturiol. Mae angen i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pethau rhyfedd mewn bywyd ymweld.

Am ragor o wybodaeth, ewch i morbitorium.co.uk neu ymuno â’n rhestr bostio

Mae’n rhad ac am ddim i fynd mewn i’r amgueddfa, ond rydyn ni’n derbyn rhoddion os hoffech chi gefnogi ein gwaith.

Ydych chi’n chwilio am anrheg unigryw am ffrind lletchwith?

Neu efallai rydych chi eisiau sbwylio’ch hun? Beth bynnag yw’ch rheswm dros ymweld, mae’r Morbitorium yn wahanol i unrhyw siop arall rydych chi wedi ymweld â hi o’r blaen.

Yn sefyll wrth ymyl y fynedfa mae cerflun sgerbwd 8 troedfedd o daldra o’r enw Mort, ac mae pedolau rhydlyd uwchben y drws i gadw ysbrydion drwg draw. Pan fyddwch chi y tu mewn, byddwch chi’n gweld nid yn unig ein bod ni’n gwerthu cymysgedd o hanfodion dewiniaeth pob dydd, a rhai o’r eitemau mwyaf rhyfedd y byddwch chi’n dod o hyd iddyn nhw, ond bod y siop yn rhan o’n hamgueddfa cwpwrdd hynodion, felly gallwch chi ddewis eich pecyn nesaf o gardiau tarot yn yr awyrgylch arswydus priodol, wedi’i amgylchynu gan benglogau, tacsidermi a rhyfeddodau eraill.

Gallwn ni eich helpu chi gyda

· Cardiau tarot

· Canhwyllau swynion

· Crisialau

· Byrddau ysbrydion

· Nwyddau i’r cartref

· Amrywiaeth eang o benglogau

· Tacsidermi

· A llawer, llawer mwy

Mae modd chwilio trwy rhai o’r eitemau yn y siop ar-lein, ond mae llawer mwy o bethau ar gael yn y siop go iawn. Beth am ymuno â’n rhestr bostio i gael gwybod rhagor am ein cynhyrchion newydd a chynigion arbennig?

Essential information

Address
Address
5 Gelli-Unig Place, Pontywaun, Caerphilly,
NP11 7GG
Contact Name
Contact
Dave Roberts
Phone
Phone
01495 273298
Website
Social Media
Facebook
CTA Member

You may also be interested in: