Mae gan Westy Golff a Sba Bryn Meadows fwydlen dymhorol wych sy’n cynnwys prydau modern â thema Gymreig. Mae’r bwyty’n prynu’r cynhwysion Cymreig gorau gan gyflenwyr lleol … ac mae’n ffyddlon i’w enw, gan mai’r blas yw’r peth pwysicaf!
Mae’r bwyty wedi ennill enw da ymhlith preswylwyr a phobl leol am fod yn lle gwych i ddathlu gyda’r teulu neu i gael pryd rhamantaidd.
Cafodd ei enwebu ar gyfer gwobr ‘Bwyty Safonol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru yn 2016, a chyrhaeddodd y rhestr fer. Eleni, mae eisoes wedi’i enwebu ar gyfer gwobr ‘Hoff Fwyty Bwydgarwyr’ yng Ngwobrau Twf Busnes, a gwobr ‘Bwyty Gwesty’r Flwyddyn’ yng Ngwobrau Bwyd Cymru.