Roedd canol tref Bargod yn disgleirio â chreadigrwydd Nadoligaidd wrth i fusnesau lleol drawsnewid blaenau eu siopau ar gyfer y Gystadleuaeth Addurno Ffenestri y Nadolig flynyddol.
Mae Reverie – Creators Market wedi cael ei choroni’n enillydd Cystadleuaeth Addurno Ffenestri Nadolig Bargod 2025, gan greu argraff ar y beirniaid gyda’i harddangosfa Nadoligaidd fywiog a dychmygus. Roedd y brif ffenestr yn arddangos ymdrech gydweithredol gan yr holl fasnachwyr yn Reverie, gydag addurniadau lliwgar wedi’u plethu â chynhyrchion sydd ar werth. Roedd pob modfedd o le ar y ffenestri wedi’i addurno i’r eithaf, gyda ffenestri ochr hefyd wedi’u haddurno mewn addurniadau Nadoligaidd, gan greu profiad gwirioneddol hudolus i ymwelwyr.
Wedi’i leoli yn 61–62 Hanbury Road, Bargod, mae Reverie – Creators Market yn fusnes newydd sy’n cael ei redeg gan AnnMarie Whitcombe. Cafodd yr adeilad, a oedd yn gartref i Gus Jones Jewellers gynt, ei adfywio yng Ngwanwyn 2025 fel prosiect Gofod Dros Dro gyda chymorth cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.
Dechreuodd y cysyniad ar gyfer Reverie pan wnaeth AnnMarie gofrestru gyda PopUp Wales am gyfnod prawf mewn gofod gweithdai celf neu le bach i werthu nwyddau ar ôl blynyddoedd o freuddwydio am ei busnes creadigol ei hun a pherchen ar siop anrhegion bwtîc. Gan sylweddoli’r potensial i gydweithio â phobl greadigol eraill, fe wnaeth AnnMarie estyn allan at artistiaid a gwneuthurwyr ledled De Cymru, ac roedd yr ymateb yn ysgubol.
Gyda’r adeilad eisoes wedi’i ddodrefnu ac angen ychydig iawn o waith paratoi, fe wnaeth AnnMarie drawsnewid y gofod yn ganolfan greadigrwydd hudolus, sy’n cael ei ddisgrifio fel “ogof Aladdin” llawn creadigaethau hardd ac unigryw. Mae’r ystafell gefn bellach yn cael ei defnyddio fel stiwdio gelf, lle mae AnnMarie a’i mam Mary yn gweithio ar eu creadigaethau ac yn paratoi ar gyfer eu nosweithiau paentio a sipio a sesiynau therapi celf.
Pan gawson nhw wybod eu bod nhw wedi cael eu dewis fel enillydd Bargod, dywedodd AnnMarie:
“Rydyn ni yn Reverie wrth ein bodd i fod wedi ennill Cystadleuaeth Addurno Ffenestri Siop Nadolig Bargod! Dylai’r diolch mwyaf fynd i’r holl artistiaid a gwneuthurwyr lleol anhygoel a wnaeth helpu creu arddangosfa mor hudolus. Rhoedd eu darnau wedi’u gwneud â llaw wedi rhoi enaid i’r ffenestr, ac fe wnaethon ni ychwanegu’r sglein Nadoligaidd.
Ers agor, mae’r adborth gan ymwelwyr wedi bod yn anhygoel, cynnes, cadarnhaol, a chalonogol. Mae clywed faint mae pobl yn dwlu ar y gofod a’r amrywiaeth eang o gelfyddwaith wedi’i wneud â llaw wedi codi ysbryd bob un ohonom ni sy’n cymryd rhan.
Rydyn ni’n gobeithio y bydd y cyhoedd yn parhau i ddangos eu cefnogaeth ac yn dewis prynu gan artistiaid a gwneuthurwyr lleol talentog. Os yw’r gymuned yn cofleidio ein Marchnad Grewyr fach, bydd ganddi siawns llawer gwell o ddod yn osodyn hirdymor ym Margod – rhywbeth arbennig y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono.”
I’w llongyfarch hi ar ei hymdrechion, cafodd AnnMarie a’i mam Mary eu gwahodd i gyflwyniad arbennig gyda’r Cynghorydd Jamie Pritchard, Arweinydd y Cyngor, a’r Cynghorydd Howard Llewellyn, Maer Cyngor Tref Bargod. Cafodd AnnMarie fasged o anrhegion Nadoligaidd wedi’u rhoi yn garedig gan Gyngor Tref Bargod, ynghyd â thystysgrif i nodi ei chyflawniad.
Hefyd yn cael canmoliaeth uchel oedd The Darts Dungeon (18 Y Stryd Fawr) a Bowen’s & La Bamba Barbershop/Awaydayz (24 Y Stryd Fawr) a gafodd ymweliad arbennig gan Faer y Dref, a chael arwydd o ddiolch a thystysgrif am eu hymdrechion.
Llongyfarchiadau i AnnMarie a’r holl fasnachwyr talentog yn Reverie – Creators Market, ynghyd â’r holl fusnesau sydd wedi cymryd rhan ar draws canol y dref am ddod â hwyl a chreadigrwydd Nadoligaidd i Fargod y Nadolig hwn!