Cymru yn barod ar gyfer y Tour de France wrth i lwybr llawn 2027 gael ei gyhoeddi
27 Hydref, 2026
Amser darllen: 5m
Mae cyfnod y Nadolig ar y gorwel, ac mae tîm digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn llawn cyffro i gyhoeddi’r manylion am y digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal yng nghanol trefi drwy gydol mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2026.
Eleni, bydd y marchnadoedd Nadolig arferol yn cael eu cynnal ym Margod (14 Tachwedd), Caerffili (21 Tachwedd), Coed Duon (28 Tachwedd) ac Ystrad Mynach (5 Rhagfyr). Byddan nhw’n cynnwys amrywiaeth wych o stondinau bwyd, diod, crefft a gwybodaeth, yn ogystal â digon o adloniant a gweithgareddau gwych i deuluoedd eu mwynhau.
Hefyd, bydd Ffair Nadolig Fach Caerffili yn dychwelyd i ganol tref Caerffili ddydd Gwener 20 Tachwedd, gyda Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni am 5.30pm, a seremoni cynnau’r goleuadau Nadolig ac arddangosfa tân gwyllt o 6pm ymlaen. Bydd digwyddiad annibynnol Marchnad Nadolig Caerffili yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 21 Tachwedd. Bydd marchnadoedd Nadolig Bargod, Coed Duon ac Ystrad Mynach hefyd yn cynnwys gorymdaith lusernau am 4.15pm a seremoni cynnau’r goleuadau Nadolig am 4.45pm.
Gall teuluoedd gymryd rhan yn y gorymdeithiau llusernau eleni drwy wneud eu llusernau eu hunain yn y gweithdai gwneud llusernau am ddim – a fydd yn cael eu cynnal ym Margod, Caerffili, Rhisga, Coed Duon ac Ystrad Mynach – lle bydd deunyddiau crefft yn cael eu darparu ar gyfer gwneud eich creadigaethau dychmygus eich hun!
Mae mynediad am ddim i ddigwyddiadau’r gaeaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu trefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac yn cael cymorth ariannol gan Gyngor Tref Bargod, Cyngor Tref Coed Duon, Cyngor Tref Caerffili a Chyngor Cymuned Gelligaer.
I gael rhagor o fanylion am bob digwyddiad a chael gwybod am ddigwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn ystod cyfnod y Nadolig, ewch i www.visitcaerphilly.com.
I wneud cais am ofod masnachu yn unrhyw un neu ragor o ddigwyddiadau canol tref eleni, llenwch y ffurflen gais ar-lein: https://bit.ly/3KwS9dO.
I holi am ddigwyddiadau, anfonwch neges e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Dyma holl ddigwyddiadau’r gaeaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:
| Digwyddiad | Dyddiad | Amser | Lleoliad | Digwyddiad Facebook |
| Gweithdai Gwneud Llusernau Bargod | Dydd Sadwrn 7 Tachwedd
Dydd Sadwrn 14 Tachwedd |
10am – 4pm | Llyfrgell Bargod, Hanbury Road, Bargod CF81 8QR | https://bit.ly/4z4uxks |
| Gweithdai Gwneud Llusernau Caerffili | Dydd Sadwrn 7 Tachwedd
Dydd Sadwrn 14 Tachwedd |
10am – 4pm | Canolfan Gymunedol y Twyn, Caerffili CF83 1JL | https://bit.ly/4izmiqP |
| Marchnad Nadolig Bargod, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni | Dydd Sadwrn 14 Tachwedd | 9am – 5pm
Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni: 4:15pm
Cynnau Goleuadau’r Goeden Nadolig: 4:45pm |
Canol tref Bargod, CF81 8QT | https://bit.ly/4sa1pWn |
| Gweithdai Gwneud Llusernau Rhisga | Dydd Sadwrn 14 Tachwedd
Dydd Sadwrn 21 Tachwedd |
10am – 4pm | Llyfrgell Rhisga, 75 Tredegar Street, Rhisga NP11 6BW | https://bit.ly/3UFQBmA |
| Ffair Nadolig Fach Caerffili (yn cynnwys Cynnau Goleuadau’r Nadolig, Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni ac Arddangosfa Tân Gwyllt) | Dydd Gwener 20 Tachwedd | 12pm – 6:30pm
Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni: 5:30pm
Cynnau Goleuadau’r Nadolig ac Arddangosfa Tân Gwyllt: 6pm |
Canol tref Caerffili, CF83 1JL | https://bit.ly/4i0tif4 |
| Marchnad Nadolig Caerffili | Dydd Sadwrn 21 Tachwedd | 9am – 5pm | Canol tref Caerffili, CF83 1JL | https://bit.ly/4yqR2PD |
| Gweithdai Gwneud Llusernau Coed Duon | Dydd Sadwrn 21 Tachwedd
Dydd Sadwrn 28 Tachwedd |
10am – 4pm | Eglwys Fethodistaidd Coed Duon, Wesley Road, Coed Duon NP12 1PP | https://bit.ly/4z2azqu |
| Marchnad Nadolig Coed Duon, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni | Dydd Sadwrn 28 Tachwedd | 9am – 5pm
Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni: 4:15pm
Cynnau Goleuadau’r Nadolig: 4:45pm |
Canol tref Coed Duon, NP12 1AB | https://bit.ly/3TVMjHy |
| Gweithdai Gwneud Llusernau Ystrad Mynach | Dydd Sadwrn 28 Tachwedd
Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr |
10am – 4pm | Canolfan Gristnogol Siloh, Oakfield Street, Ystrad Mynach CF82 7AF | https://bit.ly/4zHsSBh |
| Marchnad Nadolig Ystrad Mynach, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Hetiau Siôn Corn gyda Cherddoriaeth a Goleuni | Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr | 9am – 5pm
Gorymdaith Lusernau Hetiau Siôn Corn gyda Cherddoriaeth a Goleuni: 4:15pm
Cynnau Goleuadau’r Nadolig: 4:45pm |
Canol tref Ystrad Mynach CF82 7AB | https://bit.ly/4i2bksn |