Gweithdai Gwneud Llusernau Ystrad Mynach

28 Tachwedd - 5 Rhagfyr 2026 (Gweld amseroedd dyddiol)
  Canolfan Gristnogol Siloh, Oakfield Street, Ystrad Mynach CF82 7AF
  01443 866390   digwyddiadau@caerffili.gov.uk

Mynediad am ddim, dim angen cadw lle ymlaen llaw!

Wrth i ni agosáu at dymor y Nadolig, beth am fwynhau rhywfaint o amser hwyliog i’r teulu AM DDIM a dod â’r plant i greu llusern Nadoligaidd arbennig ar gyfer Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni Hetiau Siôn Corn yng nghanol tref Ystrad Mynach ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr.

Bydd y gweithdai’n brofiad braf i’r hen a’r ifanc! Gall plant ddangos eu creadigrwydd nhw a bydd oedolion yn cael cyfle i gael hwyl a chwarae rhan hefyd! Boed yn llusern deuluol neu’n rhywbeth ychydig yn fwy mentrus, bydd digon o bapur crefft a glud i bawb gael creu campwaith!

Gweithdai yng Nghanolfan Gristnogol Siloh

  • Dydd Sadwrn 28 Tachwedd, 10am – 4pm
  • Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr, 10am – 4pm

Mae’r digwyddiad am ddim hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i ariannu gan Gyngor Cymuned Gelli-gaer.

Gwybodaeth bellach

Amseroedd dyddiol y digwyddiad

Dydd Sadwrn 28 Tachwedd, 10:00am-4:00pm
Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr, 10:00am-4:00pm

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad