Marchnad Nadolig Caerffili 2026

21 Tachwedd 2026
  Canol tref Caerffili CF83 1JL
  01443 866390   digwyddiadau@caerffili.gov.uk

Sylwer: gall yr holl wybodaeth newid.

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol i gael diweddariadau rheolaidd!

I wneud cais am ofod masnach yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau eleni, llenwch y ffurflen gais ar-lein.

Am ymholiadau cyffredinol am ddigwyddiadau, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.

Mae Marchnad Nadolig Nghaerffili yw’r lle perffaith i chi deimlo ysbryd y Nadolig. Profwch olygfeydd, seiniau ac arogleuon y dref a’r castell wrth baratoi ar gyfer y Nadolig, gyda bwyd stryd blasus, arogl gwin brwd, theatr stryd gyffrous a dros 60 o stondinau bwyd, crefft a rhoddion, gan gynnwys atyniadau ffair i ddiddanu’r holl deulu!

Wrth ymweld â Farchnad Nadolig Caerffili, cofiwch fynd i Ffair Grefftau Crafty Legs wrth y Senotaff, Lle’r Farchnad Caerffili yn Morrisons, a Ffos Caerffili. Mae’r holl farchnadoedd hyn yn ategu Farchnad Nadolig Caerffili, a’r cymysgedd o siopau annibynnol a siopau’r stryd fawr sydd yn y dref.

Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM! Mae ffioedd mynediad arferol yn berthnasol i Gastell Caerffili.

Am ragor o wybodaeth, neu e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.

Oes diddordeb gennych chi mewn cael stondin yn y digwyddiad hwn? Cysylltwch â digwyddiadau@caerffili.gov.uk.

Mae Cyngor Tref Caerffili yn cynorthwyo’r digwyddiad hwn.


Parcio a Thrafnidiaeth

 

Parcio

Mae meysydd parcio cyhoeddus, gan gynnwys mannau parcio i bobl anabl, ar gael yn y lleoliadau canlynol:

  • Maes parcio Station Terrace CF83 1JU (talu ac arddangos)
  • Cyfleuster parcio a theithio Caerffili CF83 1JU (am ddim)
  • Maes parcio Crescent Road CF83 1AB (talu ac arddangos)
  • Morrisons/Canolfan Siopa Cwrt y Castell CF83 1XP (am ddim, hyd at 3 awr)

Mae cyfleusterau parcio a cherdded AM DDIM yn y lleoliadau canlynol:

  • Ysgol Martin Sant, Hillside, CF83 1UW
  • Ysgol Gyfun Cwm Rhymni y Gwyndy, CF83 3HG
  • Parcio gorlif ar Gae Chwarae Owain Glyndwr, Heol Cilgant, CF83 1AB (yn dibynnu ar y tywydd)

Gallwch chi ddefnyddio Parkopedia* i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feysydd parcio yn yr ardal, gan gynnwys prisiau.

❗️ Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.

Rheseli Beiciau

Mae nifer o reseli beiciau yng nghanol tref Caerffili, wedi’u nodi’n borffor ar y map. Mae rheseli beiciau ar gael ledled Cardiff Road a’r tu allan i Morrisons.

Lleoliadau rheseli beiciau yng nghanol tref Caerffili:

  • Y tu allan i Orsaf Drenau Caerffili: 5 rhesel dan do
  • Gyferbyn â The Lazy Panda, Cardiff Road: 6 rhesel
  • Ger Banc NatWest, Cardiff Road: 3 rhesel
  • Gyferbyn â hen Fanc Barclays, Cardiff Road: 5 rhesel
  • Y tu allan i fynedfa Morrisons: 3 rhesel
  • Man cyhoeddus, Windsor Street: 5 rhesel
  • Croesfan (ynys groesi i gerddwyr) rhwng y senotaff a Chanolfan Siopa Cwrt y Castell: 12 rhesel
  • Y tu ôl i Ganolfan Gymunedol y Twyn: 4 rhesel
  • Y tu allan i Lyfrgell Caerffili: 3 rhesel

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae Cyfnewidfa Drafnidiaeth Caerffili o fewn pellter cerdded i safle’r digwyddiad.

Mae Gorsaf Drenau Caerffili yn darparu gwasanaethau uniongyrchol i’r lleoliadau canlynol ac yn ôl:

  • Bargod (bob oddeutu 10-20 munud)
  • Ynys y Barri (bob oddeutu 10-30 munud)
  • Caerdydd (bob oddeutu 10 munud)
  • Rhymni (bob oddeutu 30-40 munud)
  • Ystrad Mynach (bob oddeutu 10-20 munud)

Mae gorsaf fysiau Caerffili yn darparu cyswllt uniongyrchol â Chaerdydd a llwybrau eraill ledled y Fwrdeistref Sirol.

Ewch i wefannau Trafnidiaeth Cymru* a Traveline Cymru* i gael rhagor o wybodaeth am amserlenni trenau a bysiau.

❗️ Gwiriwch am newidiadau posibl i amserlenni/llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer diwrnod y digwyddiad cyn teithio.

*Nid yw Croeso Caerffili yn gysylltiedig â’r cwmni/sefydliad hwn.


Rhaglen Adloniant

Ragor o wybodaeth yn dod yn fuan.


Rhestr Stondinau

Ragor o wybodaeth yn dod yn fuan.


Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau’r Gaeaf 2026 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Gwybodaeth bellach

Taliadau

Mynediad AM DDIM

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad