Cyhoeddi digwyddiadau Nadoligaidd Canol Trefi Bwrdeistref Sirol Caerffili 2025

  Cyhoeddwyd: 7 Hydref, 2025
  Amser darllen: 2m

Er nad yw tymor yr ŵyl wedi cyrraedd eto, rydyn ni’n llawn cyffro i rannu manylion ein digwyddiadau canol trefi sy’n digwydd yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr!

Eleni, bydd ein Ffair Nadoligaidd Fach gyntaf yng nghanol tref Caerffili ddydd Gwener 21 Tachwedd i gyd-fynd â Chynnau Goleuadau Nadolig y dref, gyda’r Orymdaith Lusernau Afon y Goleuni ac Arddangosfa Tân Gwyllt blynyddol hefyd yn cael eu cynnal yr un diwrnod.

Bydd digwyddiad annibynnol Marchnad Nadolig Caerffili wedyn yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 29 Tachwedd.

Hefyd eleni, bydd ein Marchnadoedd Nadolig arferol yn dychwelyd yn Ystrad Mynach, Coed Duon a Bargod, ynghyd â’n Gweithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni a Chaerffili ar Iâ.

Dyma’r digwyddiadau i gyd:


Gweithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni

  • Dyddiadau: Dydd Sadwrn 8, dydd Sul 9, dydd Sadwrn 15 a dydd Sul 16 Tachwedd
  • Lleoliad: Canolfan Gymunedol y Twyn, canol tref Caerffili CF83 1JL
  • Amser: 10am – 5pm

Marchnad Nadolig Ystrad Mynach

  • Dyddiad: Dydd Sadwrn 15 Tachwedd
  • Lleoliad: Canol tref Ystrad Mynach, CF82 7AA
  • Amser: 9am – 5pm

Mini Festive Fair (including Caerphilly’s Christmas Light Switch-On, River of Light Lantern Parade & Fireworks Display)

  • Dyddiad: Dydd Gwener 21 Tachwedd
  • Lleoliad: Canol tref Caerffili, CF83 1JL
  • Amser: 12pm – 7pm
    • Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni: 6pm
    • Arddangosfa Tân Gwyllt a Chynnau Goleuadau Nadolig: 6:45pm

Marchnad Nadolig Coed Duon

  • Dyddiad: Dydd Sadwrn 22 Tachwedd
  • Lleoliad: Canol tref Coed Duon, NP12 1AH
  • Amser: 9am – 5pm

Marchnad Nadolig Caerffili

  • Dyddiad: Dydd Sadwrn 29 Tachwedd
  • Lleoliad: Canol tref Caerffili, CF83 1JL
  • Amser: 9am – 5pm

Marchnad Nadolig Bargod, yn cynnwys Gorymdaith Gerddoriaeth a Goleuni

  • Dyddiad: Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr
  • Lleoliad: Canol tref Bargod, CF81 8QT
  • Amser: 9am – 6pm
    • Gorymdaith Gerddoriaeth a Goleuni: 5pm

Am ddiweddariadau rheolaidd ar bob digwyddiad, gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol:

Postiadau diweddar